Mae hyfforddwr arloesol rygbi cadair olwyn o Wrecsam yn un o saith 'Newidiwr Gêm' chwaraeon sydd wedi'u hanrhydeddu mewn cerdd emosiynol a ddatgelwyd ar draws pedwar lleoliad eiconig yn y DU fel rhan o ddathliadau pen-blwydd 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol.
Mae Stephen Jones, Prif Hyfforddwr a Chadeirydd Clwb Rygbi Cadair Olwyn a Chwaraeon Anabledd Gogledd Cymru, yn cael ei ddathlu mewn un o saith pennill sy’n ffurfio teyrnged bwerus sydd wedi’i chrefftio gan yr artist a’r bardd cyfoes Albanaidd byd-enwog, Robert Montgomery. Mae pob pennill, sy’n anrhydeddu 'Newidiwr Gêm' gwahanol, wedi’i ddatgelu mewn lleoliad chwaraeon arwyddocaol ar draws y DU.
Datguddiwyd pennill Jones, sy’n cydnabod ei ymdrechion arloesol i wneud rygbi cadair olwyn yn fwy hygyrch, yn Stadiwm y Principality Caerdydd. Mae’r lleoliad eiconig hwn yn lleoliad teilwng, o ystyried ei etifeddiaeth anhygoel gan y Loteri Genedlaethol ei hunan. Adeiladwyd y stadiwm gyda grant o £46.3 miliwn gan y Loteri Genedlaethol – y grant unigol mwyaf erioed i’w wobrwyo i brosiect Cymreig – ac mae Stadiwm y Principality wedi dod yn symbol o falchder chwaraeon Cymru ac wedi cynnal digwyddiadau mawr rygbi cynghrair, gan gynnwys seremonïau agoriadol Cwpanau Byd Rygbi Cynghrair yn 2000 a 2013.
Mae taith Jones o fod yn chwaraewr i arweinydd cymunedol yn wirioneddol ysbrydoledig. Ers sefydlu ei glwb ym mis Ebrill 2013, mae wedi trawsnewid rygbi cynghrair cadair olwyn yng Ngogledd Cymru, gan ei wneud yn hygyrch i bobl o bob gallu. O dan ei arweiniad, mae’r clwb wedi magu 16 o chwaraewyr rhyngwladol ac wedi dod yn ganolbwynt hanfodol i’r gymuned, gan hyd yn oed ehangu yn ystod heriau’r pandemig.
Un enghraifft deimladwy o effaith y clwb yw stori Ted, a ymunodd pan oedd yn 13 mlwydd oed. Yn wreiddiol, roedd yn ofnus iawn o ddefnyddio cadair olwyn oherwydd ei barlys yr ymennydd, ond ers hynny mae Ted wedi ffynnu i fod yn chwaraewr rhyngwladol i Gymru – tystiolaeth o gred angerddol Jones mewn grym chwaraeon anabledd.
Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hanfodol i’r llwyddiant hwn, gan ddarparu offer hanfodol fel cadeiriau olwyn chwaraeon. Mae'r clwb bellach yn ymfalchïo mewn tri thîm yn cystadlu mewn gwahanol gynghreiriau - y cyntaf yn y DU - ac mae wedi gweld twf anhygoel yn ei aelodaeth.
Dywedodd Stephen: “Syrthiais mewn cariad â’r gamp yn llwyr oherwydd ei bod mor amrywiol. Gall unrhyw un chwarae. Mae'n gwbl gynhwysol ar hyn o bryd. Mae gennym blentyn 11 mlwydd oed a rhywun 70 mlwydd oed. Mae gennym chwaraewr traws, mae gennym bobl sydd wedi colli coesau neu freichiau, ac mae gennym bobl fel fy mab, sydd ag epilepsi. Rwy'n angerddol iawn bod angen chwaraeon i bobl anabl a gyda chymorth arian y Loteri, rydym wedi gallu symud ymlaen yn arwyddocaol yn y maes hwnnw."