O real i rithwir
Mae symud o'r byd real i’r rhith-fyd wedi bod yn anghenraid i'r rhan fwyaf o chwaraeon, hyd yn oed os oedd hynny dim ond er mwyn cadw mewn cysylltiad â chwaraewyr ac athletwyr oedd wedi'u cloi allan o'u lleoliadau a'u caeau chwarae.
I lawer, serch hynny, daeth y sgrin yn achubiaeth. Defnyddiodd Reuben Florence, prif hyfforddwr Dragon Karate Cymru ym Mangor, wersi carate ar-lein fel ffordd o gadw mewn cysylltiad ag aelodau'r clwb, yn ogystal â chyflwyno aelodau newydd i'r gamp.
"Doedd gweithgareddau ar-lein ddim yn mynd i gymryd lle hyfforddiant wyneb yn wyneb go iawn, ond ar y pryd roedden nhw'n ffordd wych o gyflwyno'r gamp a chadw pobl mewn cysylltiad," meddai Reuben.
Yn yr un modd, y byd ar-lein oedd yn cadw clybiau criced ledled Cymru mewn cysylltiad â'i gilydd drwy gydol yr haf – gyda fideos doniol, awgrymiadau hyfforddi a chwisiau - pan nad oedd posib mynd i’r clybiau eu hunain.
Sesiynau Jazz
Ar y lefel elitaidd, aeth beicwyr fel Geraint Thomas ac Elinor Barker i'w garejys lle'r oedd sesiynau rhithwir ar feic yn gysylltiedig â meddalwedd fel Zwift yn eu galluogi i gadw mewn siâp.
Wedyn datblygodd hyfforddiant rhithwir yn rasys rhithwir, ac un o’r negeseuon a ddenodd y sylw mwyaf yn gynnar yn ystod y cyfyngiadau symud ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y sesiynau ffitrwydd nofio cyfarwyddiadol a bostiwyd gan Jazz Carlin, enillydd dwy fedal arian Olympaidd.
Rhannwyd ei threfn ymarfer – ar gyfer nofwyr a phawb arall – gan filoedd o bobl, ac felly hefyd fideos Chwaraeon Cymru ei hun ar gyfer cadw’n actif yn y cartref, a oedd yn cynnwys yr athletwyr rhyngwladol o Gymru, Melissa Courtney a Mica Moore.
Mae dyfeisgarwch wedi bod yn thema gyfarwydd hefyd yn y byd chwaraeon yng Nghymru yn ystod 2020, gydag athletwyr a chwaraeon cyfan yn defnyddio eu creadigrwydd i sicrhau’r effaith orau bosib.
Digon o gymhelliant
Yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, llenwodd Sarah Abraham, seren y naid hir o Gymru, ddau fag siopa Sainsbury's gyda llyfrau trwm a'u clymu i far codi - er mwyn creu campfa ffug yn ystafell fyw ei fflat yn Llundain.
Yn yr un modd, dangosodd pencampwr Paralympaidd dwbl Cymru, Aled Davies, ei fod yn feistr ar DIY yn yr ardd drwy osod ardal daflu iddo’i hun yno, a thaflu rhwyd rhwng dwy goeden afalau.
"Mae'n rhaid i chi fod yn ddyfeisgar," meddai. "Dydw i ddim yn anelu am record byd yn yr ardd gefn. Dim ond ceisio dal ati a gobeithio na fydd gormod o rwd yn setlo ar y cymalau."
Aeth seren Olympaidd Cymru a chyn judoka rhif un y byd, Natalie Powell, gam ymhellach drwy greu ardal matiau gyfan a champfa dan do yn ei hystafell fyw yng Nghaerdydd.