Main Content CTA Title

Stori Arbennig - Diffibrilwyr a Chwaraeon Cymunedol yng Nghymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Stori Arbennig - Diffibrilwyr a Chwaraeon Cymunedol yng Nghymru

Yn ystod haf 2021 gwelwyd y byd chwaraeon yng Nghymru yn cael ei siglo gan farwolaeth dau chwaraewr yn dilyn ataliadau ar y galon ar gaeau cymunedol.

Dioddefodd y cricedwr Maqsood Anwar drawiad angheuol ar y galon wrth chwarae i Centurions Sili, gyda’r drasiedi’n cael ei hailadrodd wythnosau yn unig yn ddiweddarach yng Nghlwb Rygbi Cwmllynfell pan ddioddefodd Alex Evans yr un dynged.

Yn anffodus, bu farw Maqsood ac Alex er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w hachub.

Mae ysgrifennydd y clwb yn Sili, Ricki Griffett, yn gwybod efallai na fyddai diffibriliwr wedi achub bywyd Maqsood, ond mae eisiau i bob clwb chwaraeon fod â’r cyfle gorau i achub unrhyw berson sy’n cael trawiad ar y galon.

Dywedodd Ricki: “Pe bai diffibriliwr wedi bod yn agosach, yna yn amlwg rydych chi’n siarad am eiliadau erbyn y bydden ni wedi gallu cael un.

Defibrillator Machine on Wall

 

“’Sa i’n dweud y byddai wedi achub ei fywyd e, ond byddai wedi rhoi cyfle llawer gwell iddo.”

Roedd gan Glwb Rygbi Cwmllynfell ddiffibriliwr ar eu cae, a ddefnyddiwyd pan oedd y meddygon yn trin Alex, ond nid yw pob clwb chwaraeon yng Nghymru yn yr un sefyllfa.

Yn ôl Sefydliad Prydeinig y Galon, mae pob munud sy'n mynd heibio heb CPR (dadebru cardio-anadlol) neu ddiffibrilio yn lleihau'r siawns o oroesi hyd at 10 y cant, ond gall CPR a diffibrilio fwy na dyblu'r siawns o oroesi. Amcangyfrifir bod diffibrilwyr mynediad cyhoeddus (PADs) yn cael eu defnyddio mewn llai na 10 y cant o ataliadau cardiaidd y tu allan i'r ysbyty (OHCAs).

Ar ôl y trasiedïau yn ymwneud â Maqsood ac Alex, bu galw am i glybiau chwaraeon ledled Cymru sicrhau bod diffibrilwyr naill ai ar eu safle neu'n agos atynt.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £500,000 ychwanegol i wella mynediad cymunedol at ddiffibrilwyr, a bydd Chwaraeon Cymru yn talu costau hyfforddiant i glybiau a sefydliadau sy'n ceisio sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio'n gywir.

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi ymuno ag elusen Calon Heartsi sicrhau y bydd diffibrilwyr sy’n achub bywydau’n cael eu gosod ym mhob clwb yng Nghymru, am ddim y tymor hwn.

Ac yn y byd criced mae cynllun â chymhorthdal ​​mawryn ei le i helpu clybiau i gael mynediad at yr offer a allai achub bywydau.

Daethpwyd â’r realiti y gall ataliad ar y galon daro unrhyw un ar gae chwaraeon, waeth pa mor ffit a waeth pa oedran ydyn nhw, i sylw pawb o dan amgylchiadau dychrynllyd eleni pan ddioddefodd y pêl-droediwr o Ddenmarc, Christian Eriksen, ataliad cardiaidd proffil uchel yn chwarae dros ei wlad yn rowndiau terfynol yr Ewros.

Ar hyn o bryd mae mwy na 5,400 o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus wedi'u cofrestru ar Y Gylched yng Nghymru, ond amcangyfrifir bod miloedd yn rhagor nad oes gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru gofnod ohonynt - sy'n golygu na all rhywun sy'n deialu 999 gael mynediad atynt mewn argyfwng.

Mae costau Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus yn amrywio ond gellir prynu'r rhan fwyaf o unedau am rhwng £800 a £1200*.

Mae tua 2,800 o ataliadau cardiaidd y tu allan i'r ysbyty (OHCAs) yng Nghymru bob blwyddyn ac mae ffigurau Llywodraeth Cymru yn dangos mai dim ond 1 o bob 20 o bobl sy’n goroesi OHCA yng Nghymru.**

Gellir ariannu costau cymorth cyntaf a hyfforddiant diffibriliwr drwy geisiadau i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru - er nad oes arnoch angen hyfforddiant i ddefnyddio diffibriliwr.

Dywedodd Adam Fletcher, Pennaeth BHF Cymru, “Pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon, gall CPR cynnar a diffibrilio ddyblu ei siawns o oroesi. Rydyn ni eisiau gweld mwy o bobl â'r sgiliau i berfformio CPR a gwell hygyrchedd ac amlygrwydd o ran diffibrilwyr mynediad cyhoeddus. Mae'r rhain yn rhannau hanfodol o'r gadwyn oroesi.

“Rydym yn annog unrhyw un sy’n gyfrifol am ddiffibriliwr i’w gofrestru ar Y Gylched- y Rhwydwaith Cenedlaethol o Ddiffibriliwyr - i sicrhau bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwybod ble mae a bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu cael ato mewn argyfwng.”

Wrth gyhoeddi’r cyllid ychwanegol yn ddiweddar, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Eluned Morgan: “Nid yn unig mae angen rhwydwaith cynhwysfawr o ddiffibrilwyr, ond hefyd sicrhau bod gan aelodau’r cyhoedd yr hyder i’w defnyddio, ynghyd â sgiliau CPR os nad oes diffibriliwr ar gael.

“Mae pob eiliad yn cyfrif pan fydd rhywun yn cael ataliad ar y galon. Gall pob un ohonom ni helpu i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd CPR cynnar a diffibrilio.”

Gwybodaeth Ddefnyddiol

1. MEWN ARGYFWNG SY’N PERYGLU BYWYD, FFONIWCH 999

Os ydych chi'n credu bod person wedi dioddef ataliad sydyn ar y galon (SCA) a'i fod yn anymatebol ac nad yw'n anadlu, ffoniwch naill ai 999 neu 112 ar unwaith a gofynnwch am y gwasanaeth ambiwlans. Byddant yn eich cynghori ar ba gamau i'w cymryd a naill ai'n eich hysbysu am ble mae eich diffibriliwr agosaf neu’n gofyn a oes gennych ddiffibriliwr. Bydd y gweithredwr yn aros ar y lein ac yn gofyn cyfres o gwestiynau i chi a ddylai gymryd ychydig eiliadau yn unig, ac yn eich cynghori ar ba gamau i'w cymryd i gynorthwyo mewn argyfwng.

Os oes gennych chi ddiffibriliwr yn eich clwb chwaraeon gwnewch yn siŵr ei fod wedi ei gofrestru ar Y Gylched.

2. Gwnewch gais am gyllid rhannol tuag at gost PAD drwy elusennau. Rhestrir rhai o'r rhain fel a ganlyn*:

Sefydliad Prydeinig y Galon (UK) 
Community Heartbeat Trust (Lloegr)  
Heartbeat UK (Lloegr)  
My Cariad (Cymru)  
SADS UK (Lloegr)  
Welsh Hearts (Cymru) 

[javascript protected email address](cyfeiriad e-bost ar y ddolen).

3. Bydd Chwaraeon Cymru yn cyllido cymorth cyntaf sylfaenol i gefnogi diogelwch cyfranogwyr.

Gallwch gael cyllid ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf drwy Gronfa Cymru Actif. Gellir cyllido hyfforddiant diffibriliwr hefyd.

Yn ogystal, gall clybiau wneud cais hefyd am offer cymorth cyntaf / bagiau meddygol drwy'r un grant hwn.

Dylai clybiau hefyd gysylltu â'u Corff Rheoli i ofyn am unrhyw gefnogaeth ychwanegol y gallent ei chael.

*Gwybodaeth gan Ymddiriedolaeth y GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

**Gwybodaeth gan Sefydliad Prydeinig y Galon                 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy