Mae cyn gapten Lloegr Alastair Cook yn credu y bydd hwn yn haf lle byddwn yn gweld hoffter plant at griced.
Ledled y DU, mae gweithgareddau’n agor i ieuenctid chwarae’r gêm a datblygu eu sgiliau mewn camp y bu’n rhaid iddi fod ar gau drwy gydol 2020 yn ystod misoedd cynnar y cyfyngiadau symud.
Ond gyda chyfyngiadau Covid yn llacio nawr, yn enwedig ar gyfer ieuenctid dan 18 oed, mae criced eisiau gwneud iawn am yr holl amser sydd wedi’i golli gyda rhaglen ledled y wlad i ddatgloi gwefr y bat a’r bêl.
Yng Nghymru, mae 4,000 o blant eisoes yn cael eu cyflwyno i’r gêm yr haf yma drwy All Stars, y cynllun i gynnig hwyl i blant pump i wyth oed. Mae 2,000 yn rhagor yn adeiladu ar eu sgiliau craidd drwy Dynamos, y rhaglen i blant wyth i 11 oed y bu’n rhaid ei rhoi i’r naill ochr yr haf diwethaf.
“Mae’r haf yma’n gyfle gwych i’r gamp alluogi i blant brofi gwefr a hwyl chwarae criced,” meddai Cook, a gymerodd ran yn yr Wythnos Griced Genedlaethol ym mis Mehefin.
“Dros y blynyddoedd, mae Chance to Shine wedi bod yn elusen wych i gael criced yn ôl yn ysgolion y wladwriaeth a rhoi cyfle i blant brofi criced.
“Nawr mae rhaglenni eraill ar gael i gael plant i fwynhau criced, neu eu hailgyflwyno i’r gamp ar ôl holl broblemau Covid. Maen nhw’n dysgu undod ac yn dysgu syrthio mewn cariad â chriced.”
Yn All Stars, mae pob plentyn sy’n cofrestru’n cael bag cefn, bat a phêl criced a hefyd crys-T personol.
Mae’r Dynamos hŷn yn cael crysau T hefyd, ac yn ymwneud â gemau yn ogystal â sgiliau, a gallant weithio gydag ap sy’n gysylltiedig â’u sesiynau.
Mae gwirfoddolwyr – sy’n cael eu hadnabod fel gweithredwyr – yn cynnal sesiynau All Stars a Dynamos nawr mewn lleoliadau criced ledled Cymru, ganol wythnos gan fwyaf, yn gynnar gyda’r nos.
Yng Nghlwb Criced Pontardawe yng Nghwm Tawe, maent yn cynnal y ddau gynllun gyda 14 o ieuenctid yn cymryd rhan yn All Stars a 27 yn rhagor yn Dynamos.
Mae bechgyn a merched yn rhan o’r ddau grŵp, gyda’r merched yn cyfrif am ychydig llai na hanner y cyfansymiau.
Mae’r rhaglenni nid yn unig yn helpu i gyflwyno criced i’r genhedlaeth nesaf, ond fel clybiau eraill, mae Pontardawe’n defnyddio’r aelodau newydd posib a ddaw i’r clwb fel cyfle i roi egni newydd yn y clwb gyda wynebau newydd ac aelodau eu teulu.
Dywedodd cadeirydd y clwb, Rob Pick: “Mae Pontardawe wedi syrthio i lawr drwy’r cynghreiriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf a byddem yn hoffi codi eto. Mae hyn wedi rhoi hwb i ni gyda’r amcan hwnnw.
“Rydyn ni eisiau bod yn rhan o gynghrair iau y tymor nesaf, felly mae hyn wedi bod yn sbardun allweddol ar gyfer yr amcan.
“Fe wnaethon ni sefydlu All-Stars flwyddyn cyn i Covid daro ac roedd honno’n flwyddyn gyntaf wych. Fe wnaeth yr ieuenctid fwynhau yn fawr.
“Roedd y llynedd wedi’i difetha, ond rydyn ni wedi dod yn ôl eto eleni ac mae wedi bod yn dda. Mae’r plant a’r rhieni wedi bod yn frwdfrydig iawn. Mae pawb wedi dod i arfer â threfn Covid a dydych chi ddim wir yn sylwi ar ôl sbel.”