Bydd Cymru yn elwa o raglen triathlon elitaidd yng Nghaerdydd - a champ sy’n profi cynnydd mawr - erbyn i Gemau Cymanwlad y flwyddyn nesaf gael eu cynnal.
Dyna farn gadarn Louis Richards, pennaeth perfformiad Triathlon Cymru, sy’n credu y gall teimlad da ar ôl Gemau Olympaidd Tokyo ysbrydoli cenhedlaeth newydd i ddilyn yn ôl troed Non Stanford a Helen Jenkins.
Enillodd Prydain Fawr aur yn y ras gyfnewid gymysg yn Japan ym mis Gorffennaf, ynghyd â medalau arian unigol yn nghystadlaethau’r dynion a’r merched i Alex Yee a Georgia Taylor-Brown.
Bydd y tri theitl ar gael yn Birmingham 2022, y tro cyntaf y bydd cylch pedair blynedd llawn wedi bod ar gyfer Canolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru - partneriaeth rhwng Triathlon Cymru, Prifysgol Caerdydd a Met Caerdydd gyda'r nod o gynhyrchu perfformwyr elitaidd.
“Pan wnes i ddechrau yng Nghymru bedair blynedd yn ôl, roedd ychydig o ffocws yma i’r athletwyr geisio bod y gorau yng Nghymru, yn hytrach na’r gorau yn y byd,” meddai Richards, sydd hefyd wedi gweithio gyda Thriathlon Prydain.
“Mae Cymru’n wlad fechan ac os ydych chi'n gosod eich nod yng Nghymru yn unig, ’fyddwch chi ddim yn cyrraedd safonau byd.
“Rhaid i chi fod yn glir am beth fydd y safonau, ond rhaid i chi hefyd roi amser i'r athletwyr gyrraedd yno. Mae'n gamp lle mae datblygiad tymor hir yn talu ar ei ganfed ac mae pobl yn cymryd ychydig flynyddoedd i gyrraedd eu gorau.”
Ar hyn o bryd mae 16 o driathletwyr - 11 gwryw a phum benyw - wedi'u lleoli yn y ganolfan berfformio, gan ddefnyddio cyfleusterau Met Caerdydd.
Gallant frolio dau hyfforddwr llawn amser ac maent wrthi'n recriwtio trydydd, gyda chefnogaeth ymarferwyr gwyddoniaeth chwaraeon yn y brifysgol.
Mae'r ganolfan bellach yn cael ei chydnabod yn swyddogol fel canolfan lwybr gan Driathlon Prydain, gan roi'r opsiwn i driathletwyr Cymru leoli eu hunain yng Nghymru, yn hytrach na symud i Loegr.
“Mae wedi ehangu’n eithaf cyflym, ond rydyn ni nawr ar y pwynt lle rydyn ni wedi sefydlu ar gyfer y pedair i wyth mlynedd nesaf i gefnogi’r athletwyr sy’n dod drwodd,” meddai Richards.
“Cyn hyn, pan oedd athletwyr yn troi’n 18 oed ac eisiau hyfforddi mewn canolfan berfformio elitaidd, byddai’n rhaid iddyn nhw fynd i Loegr i wneud hynny. Nawr mae gennym ni amgylchedd ar gyfer athletwyr o Gymru os ydyn nhw'n dymuno aros yng Nghymru.
“Rydw i’n credu mai dim ond crafu’r wyneb ydyn ni wedi ei wneud o ran ein perthynas â Met Caerdydd. Nid cyfleusterau yn unig sy’n allweddol; cyn Covid, roedden ni’n darparu profiadau dysgu i wyth i 10 o’u myfyrwyr - staff perfformiad y dyfodol. ”