Nid yw Aled Davies yn ddyn sy’n edrych yn ôl a dyna pam mai'r llwybr i Baris yw ei ffocws wrth iddo ddychwelyd o Tokyo fel un o bedwar enillydd medal aur Cymru yn y Gemau Paralympaidd.
Cadwodd Davies ei deitl Paralympaidd yn nhaflu maen F63 y dynion i ymuno â phobl fel Tanni Grey-Thompson a David Roberts fel athletwyr o Gymru sydd wedi dod ag aur adref i Brydain Fawr o’r Gemau deirgwaith neu fwy.
Roedd y taflwr o Ben-y-bont ar Ogwr yn un o 21 o gystadleuwyr o Gymru yn Japan, a gipiodd gyfanswm o 14 o fedalau i Dîm Prydain Fawr.
Roedd hynny'n rhan o gyfanswm cyffredinol Prydain o 124 o fedalau, sy'n golygu bod carfan y Ddraig yn cyfrif am 11 y cant o'r metel - ddim yn ddrwg i genedl sy'n cyfrif am oddeutu pump y cant o boblogaeth y DU
Ond yn hytrach na gorffwys ar ei rwyfau Paralympaidd, mae Davies eisoes yn edrych ymlaen at Baris yn 2024.
Enillodd yn Tokyo heb daflu yn agos at ei orau ac nid pedwerydd aur yn unig yw ei gymhelliant, ond edrych ar ei gyfyngiadau ei hun eto o ran perfformiad.
“Fe ddois i yma am berfformiad mawr, roeddwn i eisiau gosod fy marc oherwydd dydw i ddim wedi taflu’n dda yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai’r athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr.
“Rydw i’n barod i gyflawni ar raddfa fawr, ydw wir. Rydw i mewn cyflwr gwell nag erioed. Rydw i'n credu bydd rhaid i mi aros tan Baris (Gemau Paralympaidd 2024).
“Rydw i’n dal yn ifanc ac yn teimlo’n grêt. Rydw i’n teimlo bod gen i lawer i'w roi. Paris yn bendant yw'r stop nesaf, hyd yn oed LA (Gemau Paralympaidd 2028). Rydyn ni’n dechrau arni nawr.”
Os gall Davies fod ym Mharis - pan fydd ond yn 33 oed o hyd - felly hefyd y tri enillydd aur Paralympaidd arall o Gymru: Jim Roberts, David Smith a Laura Sugar.
Roedd Roberts yn aelod o garfan rygbi cadair olwyn Prydain Fawr a ddaeth y genedl Ewropeaidd gyntaf i gipio’r aur, cadwodd Smith ei deitl BC1 unigol yn y Boccia, a dangosodd Sugar ei bod hyd yn oed yn well mewn para-canŵio nag oedd hi fel para-athletwraig wrth iddi osod record Baralympaidd newydd ar ei ffordd i gipio aur yn senglau 200m caiacio’r merched (KL3).
Fe wnaeth Sugar nid yn unig ymdopi â newid camp, ond hefyd fe wnaeth ddelio ag oedi o flwyddyn cyn cynnal y Gemau oherwydd y pandemig.
“Y funud es i i mewn i’r cwch roeddwn i wrth fy modd, bod allan ar y dŵr,” meddai.
“Mae ein grŵp hyfforddi ni’n anhygoel, ac mae'n rhaid i chi fwynhau'r hyfforddiant bob dydd oherwydd rydyn ni'n rasio am beth, pum munud allan o'r flwyddyn gron? Felly mae'n rhaid i chi fwynhau pob diwrnod o’r hyfforddiant. "
“Ar ôl i ni ddod dros siom yr oedi, roedd yn gyfle da iawn i fynd yn ôl at y pethau sylfaenol a pheidio â phoeni am orfod rasio, ac rydw i’n credu bod hynny wedi fy rhoi i mewn sefyllfa wych i fod yn gyflymach yma nag y byddwn i wedi bod y llynedd. ”