Bydd Bethan Lewis yn taflu popeth at drechu Awstralia y penwythnos yma – gan gynnwys yr holl sgiliau a ddysgodd mewn clybiau chwaraeon ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae’r chwaraewraig rygbi dros Gymru yn Seland Newydd ar hyn o bryd, yn rhan o’r garfan fydd yn herio’r Aussies ddydd Sadwrn mewn ymgais i gyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd.
Mae’r ferch 23 oed wedi dod yn rhan annatod o garfan Cymru, gan ennill mwy na 30 o gapiau dros ei gwlad, ond mae’n credu’n gryf mai’r amrywiaeth o chwaraeon a brofodd fel merch ifanc a ddysgodd gymaint o wersi bywyd gwerthfawr iddi.
Dyma pam ei bod yn annog merched i roi cynnig ar gymaint o wahanol weithgareddau â phosibl ac roedd yn bryderus o glywed bod llai o blant yn cymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i'w gwersi AG o gymharu â phedair blynedd yn ôl.
“Mae’n siomedig iawn clywed bod yr Arolwg Chwaraeon Ysgol yn dangos bod y lefelau gweithgarwch wedi gostwng,” meddai Bethan, sy’n chwarae i Gaerloyw, ond yn hanu o Abergwili yn Sir Gaerfyrddin.
“Roeddwn i’n ffodus iawn bod fy rhieni i wedi fy ngyrru o gwmpas i lefydd gwahanol i wneud gwahanol chwaraeon. Ond efallai nad yw’r opsiwn hwnnw yno i lawer o bobl ifanc ar hyn o bryd, felly mae’n bwysig bod chwaraeon yn fwy hygyrch nawr.
“Y cyfle sy’n hollbwysig.”
Aeth Bethan i Ysgol Gynradd Nantgaredig ac wedyn mynychodd Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.
Chwaraeodd nifer o wahanol chwaraeon ac er mai rygbi yw ei phroffesiwn bellach fel chwaraewraig dan gontract gydag Undeb Rygbi Cymru, pan oedd yn iau, amrywiaeth oedd yn mynd â’i bryd.
“Fe wnes i chwarae llawer o wahanol chwaraeon wrth dyfu i fyny,” meddai’r gyn chwaraewraig gyda Quins Caerfyrddin, a gynrychiolodd Brydain Fawr ym mhencampwriaethau syrffio iau y byd hyd yn oed.