Oeddech chi'n gwybod y gallwch chi gael camera chwaraeon awtomatig ar gyfer eich clwb chwaraeon gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru?
Mae technoleg fideo awtomatig yn dod yn boblogaidd iawn mewn clybiau chwaraeon cymunedol ym mhob man. A nawr, mae'r dyfeisiau rhyfedd yr olwg yma wedi bod yn ymddangos ar ochr caeau a chyrtiau ledled Cymru.
Does dim angen criw camera llawn na'ch cyfres eich hun ar Disney i gael lluniau o'ch clwb chwaraeon. Gyda'ch camera chwaraeon AI eich hun, gallwch ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi i edrych yn ôl arnyn nhw a'u dadansoddi. Gallwch rannu eich clipiau a’ch uchafbwyntiau ar gyfryngau cymdeithasol hyd yn oed.
Mae clybiau cymunedol sy'n chwilio am ffyrdd newydd o ymgysylltu â'u chwaraewyr neu foderneiddio eu dull gweithredu’n prynu'r camerâu 180° awtomatig yma ac yn tanysgrifio i becynnau dadansoddi. Ond os nad yw hyn yn bosib gyda chyllideb eich clwb, gallwn eich helpu i gael un o’r teclynnau yma y mae galw mawr amdanyn nhw.
Pan fyddwch yn codi arian ar gyfer offer fideo drwy Crowdfunder, efallai y bydd Chwaraeon Cymru yn cefnogi eich prosiect chi gydag arian cyfatebol drwy ein cynllun ‘Lle i Chwaraeon’. Gallech dderbyn addewid gan Chwaraeon Cymru sydd rhwng 30 a 50% o gyfanswm eich targed pan fydd eich prosiect chwarter y ffordd i gyrraedd eich nod.
Felly, cyflwynwch ffurflen mynegi diddordeb, sefydlu tudalen Cyllido Torfol, ymgysylltu â'ch cymuned a dechrau codi arian ar gyfer eich offer camera. Dyma ein canllaw cam wrth gam ni i’ch helpu chi i ddechrau arni.
Swnio'n rhy dda i fod yn wir? Gofynnwch i Glwb Rygbi’r Hendy! Fe wnaethon nhw godi cyllid torfol o fwy na £2000 ar gyfer Camera Veo ar gyfer eu clwb rygbi, a oedd yn cynnwys cyfraniad gan Chwaraeon Cymru o £600 o’n cronfa ‘Lle i Chwaraeon’.
Beth yw camera chwaraeon awtomatig?
Mae camera chwaraeon awtomatig, fel Veo Clwb Rygbi'r Hendy, yn gamera cludadwy sy'n defnyddio technoleg AI i dracio chwaraeon ar y cae yn awtomatig a'u recordio ar ffurf fideo o ansawdd uchel. Does dim angen gweithredwr camera. Gosodwch y camera yn ei le a gadael i'r dechnoleg wneud y gweddill. Hyd yn oed yr uwchlwytho!
Pa fathau o chwaraeon all ddefnyddio camera chwaraeon awtomatig?
Gall pob math o chwaraeon ddefnyddio offer dadansoddi fideo ond yn bennaf mae chwaraeon tîm yn gallu defnyddio camera gyda thracio awtomatig.
Dyma restr isod fel arweiniad:
- Pêl droed
- Rygbi
- Pêl fasged
- Pêl rwyd
- Hoci
- Lacrosse
- Pel droed Americanaidd
- Pêl foli
- Pêl llaw
Sut mae camera chwaraeon yn gweithio?
Mae'r camera'n defnyddio technoleg AI i ganfod a dilyn y bêl yn awtomatig a'i harddangos mewn golygfa darlledu. Gan ddefnyddio'r dechnoleg yma, fe all hyd yn oed adnabod goliau, ceisiau neu wahanol fathau o ddarnau gosod, a'u labelu nhw yn unol â hynny. Gosodwch y camera yn ei le, pwyso record a mwynhau eich gêm!