Eisiau hyrwyddo eich clwb chwaraeon? Os felly, rydych chi wedi dod i'r lle iawn.
Y dyddiau yma, nid mater o gysylltu â’ch papur newydd lleol yn unig yw codi ymwybyddiaeth o’ch tîm neu glwb chwaraeon. Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn parhau i fod ar gynnydd a, gyda phlatfformau newydd yn cael eu lansio, yn aml gall deimlo'n anodd cadw i fyny.
Beth yw manteision hyrwyddo eich clwb chwaraeon?
Gall codi ymwybyddiaeth o'ch clwb sicrhau’r canlynol:
- denu mwy o aelodau, o bob cefndir
- annog mwy o wirfoddolwyr i helpu
- helpu i sicrhau mwy o gyllid a nawdd
- hybu morâl ymhlith aelodau a gwirfoddolwyr
- denu mwy o gwsmeriaid a gwylwyr
- ennyn cefnogaeth eich AS neu gynghorydd lleol
Cyngor Doeth ar gyfer hyrwyddo eich clwb chwaraeon
Ystyried eich cynulleidfa darged
Gydag ychydig o waith cartref, fe allwch chi greu cynlluniau gwych ar gyfer eich clwb chwaraeon. Bachwch bensil a phapur ac ysgrifennu beth rydych chi eisiau ei gyflawni: ydych chi eisiau denu aelodau newydd? gwirfoddolwyr newydd? Neu ydych chi'n chwilio am nawdd?
Nawr meddyliwch am eich cynulleidfa darged a gwnewch restr o'r holl lefydd lleol a grwpiau cymunedol sy'n effeithio ar y gynulleidfa honno. Cofiwch gynnwys grwpiau ar-lein - mae gan y rhan fwyaf o ardaloedd grŵp Facebook sy'n postio am ddigwyddiadau a materion lleol.
Felly, os ydych chi'n chwilio am aelodau iau newydd, mae'n debygol mai rhieni, athrawon a phlant fydd eich cynulleidfa darged. A’r math o lefydd neu grwpiau a fydd o help i chi yw ysgolion, lleoliadau ar ôl ysgol, caffis, llyfrgelloedd, meddygfeydd, tudalen Facebook y gymuned leol ac ati.
Gall rhoi amser i wneud ychydig o waith ymchwil a chynllunio dalu ar ei ganfed! Dyma fan cychwyn eich cynllun cyfathrebu.
Cyngor Doeth: Rhowch amser i feddwl am yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni
Hysbysebwch eich clwb yn y gymuned leol
Unwaith y byddwch chi wedi gwneud rhestr o lefydd a grwpiau cymunedol, meddyliwch am sut gallant eich helpu. Allech chi gynnal sesiwn blasu am ddim yn eich ysgol leol neu efallai ymuno â'r uned Girlguiding leol neu grŵp Sgowtiaid?
Allech chi ollwng rhai taflenni hysbysebu yn y llyfrgell? Allwch chi roi posteri ar hysbysfyrddau lleol? Allwch chi ddiweddaru eich tudalen Facebook leol gyda'ch newyddion a'ch digwyddiadau?
Cyngor Doeth: Meddyliwch am eich ardal leol a sut mae pobl yn dod i wybod am glybiau a digwyddiadau cymunedol.
Annog tafod lleferydd
Ydyn, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn enfawr ond mae dulliau traddodiadol yn bwysig o hyd. A does dim byd yn well na thafod lleferydd. Rydyn ni i gyd yn hoffi argymhelliad da gan rywun rydyn ni'n ei adnabod!
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n atgoffa'ch aelodau i ledaenu'r gair. Chwilio am nawdd? Gofynnwch iddyn nhw siarad â busnesau lleol. Angen aelodau newydd? Gofynnwch iddyn nhw wahodd eu ffrindiau.
Cyngor Doeth: Gwnewch eich aelodau yn uchelseinydd.
Defnyddiwch gyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'ch clwb
Gall y cyfryngau cymdeithasol deimlo’n ormod weithiau. Mae Facebook ar gael, wedyn Instagram ac X (Twitter yn flaenorol). A na, dydyn ni ddim wedi anghofio amdanoch chi draw fan acw, Tik Tok a Threads. Ond peidiwch â theimlo bod rhaid i chi fod ar bob platfform cyfryngau cymdeithasol.
Ein cyngor ni i chi ydi gwneud rhywbeth a'i wneud yn dda. Teimlo'n gyfforddus ar Facebook? Gwych, peidiwch â phoeni am Tik Tok.
Mae perygl o geisio gwneud popeth – a chyflawni fawr ddim.
Cyngor Doeth: Peidiwch â gor-wneud pethau. Os ydych chi'n dechrau arni, canolbwyntiwch ar un neu ddau blatfform efallai a’u diweddaru nhw yn gyson.
Manteisiwch ar adnoddau ac apiau ar-lein am ddim
Beth am fod yn onest, does gan lawer o glybiau ddim cyllidebau hael nac adrannau marchnata. Yn ffodus, mae llawer o adnoddau am ddim fel Canva fedr eich helpu chi i ddylunio graffeg cyfryngau cymdeithasol, posteri a chyflwyniadau.
Mae Capcut yn blatfform golygu fideos am ddim sy'n eich galluogi chi i droi fideos sy'n cael eu ffilmio ar eich ffôn clyfar yn gynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
Mae Mailchimp yn adnodd am ddim gwych os ydych chi eisiau anfon cylchlythyr.
Cyngor Doeth: Ewch ar Youtube a chwilio am diwtorials ar gyfer pob ap i'ch helpu chi i ddechrau arni
Cael eich ysbrydoli gan glybiau eraill
Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn dilyn cynnydd Walton & Hersham FC, tîm o Surrey sydd ddim yn rhan o’r gynghrair. Maen nhw wedi denu mwy na miliwn o ddilynwyr ar Tik Tok. Mae hynny'n fwy na rhai o glybiau'r Uwch Gynghrair.
Drwy ffrydio gemau byw a diweddaru eu cyfryngau cymdeithasol yn rheolaidd gyda riliau uchafbwyntiau, maen nhw wedi datblygu dilyniant o bob cornel o'r byd.
Cyngor Doeth: Darganfyddwch beth mae clybiau eraill (neu fusnesau bach) yn ei wneud i hyrwyddo eu hunain a meddyliwch sut gallech chi wneud rhywbeth tebyg?
Cael cyllid ar gyfer camera chwaraeon
Mae’n siŵr nad oeddech chi’n gwybod y gallech chi gael camera chwaraeon awtomatig ar gyfer eich clwb gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru?
Mae camerâu fideo awtomatig yn dod yn boblogaidd iawn oherwydd mae'n golygu eich bod chi’n gallu ffilmio gemau a sesiynau hyfforddi ac wedyn rhannu eich clipiau a'ch uchafbwyntiau ar gyfryngau cymdeithasol.
Felly meddyliwch am sefydlu ymgyrch Crowdfunder ac efallai y bydd Chwaraeon Cymru yn gallu darparu arian cyfatebol drwy ein cynllun ‘Lle i Chwaraeon’.
Cyngor Doeth: Gwybodaeth am sut gwnaeth Clwb Rygbi Hendy godi digon o arian i brynu camera Veo