Mae sefydlu clwb chwaraeon newydd yn rhoi cyfle i bobl ddod yn heini, gwella eu hiechyd meddwl a chreu cyfeillgarwch newydd. Mae llawer o glybiau wedi bod yn cyflwyno chwaraeon ledled Cymru ers dros ganrif. Ond roedd rhaid iddyn nhw gymryd eu camau cyntaf ryw dro.
Eisiau rhannu mwynhad o’ch hoff gamp â phobl eraill? Oes camp yr hoffech chi ei chyflwyno yn eich ardal? Os felly, sefydlwch glwb newydd a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
Gyda chyllid gan Y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, dyna’n union wnaeth Scott Esnouf o Glwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda. Fe wnaeth ein helpu ni i roi'r pum cam pwysig yma at ei gilydd am sut i sefydlu clwb chwaraeon newydd.
Syniad da
Am y pum mlynedd diwethaf, mae oedolion Pontypridd wedi bod yn plygu, plymio ac osgoi peli gyda Chlwb Pêl Osgoi Dreigiau’r Rhondda. Ond dim ond o'r llinell ochr y gallai'r plant lleol wylio.
Cafodd Scott y syniad o gyflwyno adran iau yn y clwb, gan roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn pêl osgoi a chreu llwybr iddyn nhw barhau i fwynhau'r gamp gyda'r clwb fel oedolion.
Gweld y galw
Oes traed i’ch syniad chi ar gyfer clwb chwaraeon newydd? Os oes dyhead am gamp benodol yn eich ardal chi, mae'n werth dilyn eich syniad.
Yn ôl canlyniadau’r Arolwg Chwaraeon Ysgol, mae mwy na 100,000 o blant yng Nghymru eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl osgoi. Manteisiodd Dreigiau'r Rhondda ar y diddordeb hwnnw drwy roi cyfle i bobl ifanc ymuno â chlwb cymunedol.