Yn llechu ym mynyddoedd deheuol Eryri mae clwb hoci sy'n sicrhau bod pawb yn ei gymuned yn gallu mwynhau chwaraeon am oes.
Mae Clwb Hoci Dysynni yn enghraifft wych o glwb chwaraeon yn addasu camp i weddu i anghenion ei aelodau.
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, mae ganddyn nhw dîm hŷn yn ogystal ag adran iau. Ond nid cystadlu a’r plant yw’r ffocws i gyd.
Darganfyddwch y gwahanol ffyrdd y mae Dysynni yn cael pobl i ymwneud â hoci.
Hoci Cerdded
Pan fyddwch chi'n dechrau arafu, mae Dysynni'n arafu'r hoci i chi. Ar ddyddiau Llun, mae'r clwb yn dechrau'r wythnos ar y llwybr iawn gydag ychydig o ymarfer corff ysgafn ar ffurf hoci cerdded.
Ymhlith y chwaraewyr mae dyn 70 oed gyda dwy ben-glin newydd a chyn chwaraewr rygbi gyda chlun newydd. Mae wedi rhoi’r cyfle i famau rannu’r cae gyda’u meibion hefyd hyd yn oed.
Mae cyn-chwaraewyr a rhieni aelodau iau y clwb wedi bod yn codi’r ffyn hoci hefyd ac yn rhoi cynnig ar y gamp. Mae dau o'r tadau hynny bellach wedi ymuno â'r pwyllgor ac mae un arall wedi mynd ati i hyfforddi'r tîm iau. Chwaraewyr a gwirfoddolwyr – pawb ar eu hennill!
Mae cymaint o alw wedi bod, mae cynlluniau i greu sesiwn hoci cerdded arall i ferched er mwyn rhoi’r cyfle i’r rhai y mae’n well ganddyn nhw chwarae yn yr amgylchedd hwnnw.