John Gillibrand yw Ficer Anhygoel Pontarddulais y mae ei hoffter newydd o redeg wedi ei wneud yn ddyn newydd.
Mae ei stori - o fod yn offeiriad rhwystredig yn ystod y cyfnod clo a’i fol yn prysur ehangu i fod yn rhedwr Hanner Marathon - yn un ysbrydoledig iawn, yr un mor llawen ag un o'i bregethau ar y Sul.
Mae hefyd yn ein hatgoffa ni yn ystod cyfnod o addunedau blwyddyn newydd llym bod ystyriaeth garedig i ofalu am eich iechyd meddwl eich hun yr un mor hanfodol ag unrhyw ddyheadau corfforol.
Yn weinidog ar wib, mae’r ficer wedi mynd o fod yn pwyso ychydig dros 15 stôn i ddim ond 12 stôn a hanner ers iddo wneud y cynllun Couch to 5K ac wedyn symud ymlaen i Parkrun. Ond mae’n dweud ei fod yn dawelach ei feddwl ac yn llai pryderus hefyd.
Mae hefyd wedi cryfhau ei berthynas gyda’i fab, Peter, rhedwr marathon rheolaidd sydd wedi helpu i arwain siwrnai ei dad yn ôl i ffitrwydd corfforol a meddyliol.
Dywed John bod bywyd ficer o Orllewin Cymru, cyn y pandemig, wedi ei gadw'n eithaf actif, ond wedyn fe wnaeth y cyfnod clo a'r encilio i gyswllt ar-lein gael effaith fawr - yn llythrennol.
“Fel offeiriad plwyf, roedd fy swydd i’n cynnwys llawer o ymarfer corff anffurfiol – llawer o redeg o gwmpas fel petai,” meddai’r ficer Anglicanaidd gyda’r Eglwys yng Nghymru, sy’n 61 oed.
“Ond fe wnaeth y cyfnod clo fy nhrefn ddyddiol i’n eisteddog iawn o gymharu â fy ffordd o fyw flaenorol. Fe wnes i ddod yn ymwybodol o faint o bwysau oeddwn i’n ei gario a meddwl, ‘Mae angen i mi wneud rhywbeth am hyn’.
“Roedd yn dod yn broblem ac fe wnes i sylweddoli bod rhaid i mi wneud rhywbeth i newid.
“Y peth arall i’w sylweddoli yw bod clerigwyr yn union fel pawb arall. Doedden ni ddim wedi ein heithrio o'r pwysau emosiynol a meddyliol yr oedd pawb yn eu teimlo yn ystod y cyfyngiadau symud.
“Eto, fe wnes i feddwl bod angen i mi wneud rhywbeth. Diolch byth, fe ddywedodd fy mab Peter wrthyf i, ‘Dad, dere i redeg ’da fi!’ A dyna ddechrau arni.”
Yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Manceinion, mae John yn cyfaddef bod ei ddyddiau rhedeg wedi dod i ben ar ddiwrnod ei wers Ymarfer Corff olaf.
Hyd yn oed bryd hynny, doedd e ddim yn ddisgybl brwd iawn ac roedd yn well ganddo nofio yn achlysurol na wynebu heriau cwrs traws gwlad yr ysgol.
Felly, ei gamau cyntaf oedd dilyn rhaglen Couch to 5K - cynllun naw wythnos gyda chefnogaeth y GIG sy'n dechrau gyda cherdded cyflym am bum munud ac wedyn 60 eiliad o redeg ysgafn.
“Roedd y rhedeg cyntaf yn her – dim ond cynyddu ychydig iawn o gyflymder,” meddai John.
“Roedd y rhaglen Couch to 5K yn hynod ddefnyddiol. Mae'n eich cyflwyno chi’n raddol, rhedeg am funud ac wedyn cerdded eto.
“Yr hyn oedd yn frawychus iawn oedd ’mod i wedi edrych ar ddiwedd y cynllun Couch to 5k i weld sut brofiad oedd e ar y diwedd. Fe wnes i feddwl, ‘Fydda i byth yn gallu gwneud hynny!’
“Ond, bob tro oeddwn i’n mynd allan ar gyfer pob sesiwn unigol, roeddwn i’n meddwl, ‘Fe allaf i wneud hyn.”