Cyllid y Loteri Genedlaethol
Cefnogwyr mwyaf Olympiaid a Pharalympiaid Cymru yw chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae’r cyllid ar gyfer achosion da wedi newid y gêm i chwaraeon yng Nghymru ers bron i 30 mlynedd, gan gefnogi ein hathletwyr gorau ni fel eu bod yn gallu hyfforddi’n llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o gymorth gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon arloesol.
Hefyd mae’r Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r clybiau cymunedol sy’n meithrin talentau ifanc yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon o safon byd fel Felodrom Geraint Thomas yng Nghasnewydd a Stadiwm Principality yng Nghaerdydd.
Fel y dywedodd Aled Davies – sydd wedi ennill tair medal aur, un arian ac un efydd dros bedwar Gemau Paralympaidd:
“Heb gefnogaeth y Loteri Genedlaethol, ’fyddwn i ddim wedi gallu cyflawni’r hyn rydw i wedi’i gyflawni. Mae wedi fy ngalluogi i wneud cynnydd, gwthio’r record byd i fyny bob blwyddyn a nawr rydw i wedi mynd â’r gamp i le na feddyliodd neb erioed. Mae hynny oherwydd cefnogaeth anhygoel y Loteri Genedlaethol a’r holl chwaraewyr anhygoel sydd allan yna.”
Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf
Mae ein sêr ni ym Mharis yn tanio breuddwydion pobl ifanc. Faint o blant wyliodd y ddrama chwaraeon yn datblygu a phenderfynu, “Dyna beth rydw i eisiau ei wneud”?
Ac wrth gwrs, nid dim ond ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o Olympiaid a Pharalympiaid sy’n digwydd, mae’n tanio brwdfrydedd i fynd ar eich beic, mentro i’r pwll, rhedeg yn gyflym neu ddim ond rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Ed Davies yw ysgrifennydd clwb Beicwyr Tywi yng Nghaerfyrddin; y clwb lle dechreuodd y cyfan i'r ferch euraidd Emma Finucane. Mae'n dweud bod effaith Paris yn gwbl amlwg:
“Rydyn ni’n bendant wedi cael mwy o ymholiadau gan rieni y mae eu plant nhe wedi gwylio’r Gemau ac sydd eisiau rhoi cynnig ar feicio. Mae ein haelodau iau ni wedi bod yn gyffrous iawn – maen nhw wedi cael eu syfrdanu o weld beth mae merch sydd wedi dod drwy’r clwb wedi’i gyflawni ar lwyfan mwya’r byd.”