“Pe bai unrhyw un wedi dweud wrthyf i ychydig fisoedd yn ôl y byddwn i’n mynd i’r Gemau Paralympaidd, fe fyddwn i wedi dweud nad oedd hynny’n bosibl,” meddai Beth.
“Roeddwn i wedi chwarae pêl rwyd ers yr ysgol, felly roedd athletau a taekwondo yn dal i fod yn newydd iawn i mi.
“Ond pan wnes i gwrdd ag Anthony Hughes (Rheolwr Perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru), fe wnes i roi pêl rwyd i’r naill ochr a newid i taekwondo.
“I ddechrau, fe es i i ddigwyddiad adnabod talent Chwaraeon Anabledd Cymru, diolch i Chantelle Tuchon.
“Mae hi’n haeddu llawer o’r clod am ddechrau pethau i mi.
“Fe ddywedodd wrtha’ i ei bod yn mynd i wneud pêl fasged cadair olwyn yn y digwyddiad adnabod talent yng ngogledd Cymru a gofynnodd a fyddwn i’n hoffi mynd gyda hi.
“Fe wnes i feddwl, ‘Dydw i erioed wedi gwneud un o’r rheini o’r blaen.’ Felly, fe wnes i yrru am awr ac 20 munud, ar fy mhen fy hun.
“Dyna lle daeth Anthony ataf i a dweud, ‘os galla’ i o bosibl dy gael di i ennill medal Paralympaidd, ddoi di i lawr i Gaerdydd i hyfforddi? ’
“Roedd yr ateb yn hawdd. Dyna pryd ddechreuodd y siwrnai.”
O'r eiliad honno ymlaen, ymrwymodd Munro yn llwyr i chwaraeon anabledd a theithiodd i lawr i Gaerdydd o Lerpwl i ddechrau ei hyfforddiant.
“Fe ofynnodd Anthony i mi deithio i lawr unwaith y mis. Fe ddechreuais i gyda gwaywffon ac fe ddywedodd, ‘Beth, be am wneud taekwondo tra rwyt ti i lawr yma?’
“Fe wnes i ddechrau, er nad oeddwn i erioed wedi cicio na tharo person yn fy mywyd.
“Roeddwn i’n dweud, ‘Dwi mor sori!’ pan oeddwn i’n cicio unrhyw un. Fe wnaethon nhw ddweud wrtha’ i nad oedd raid i mi ddal i wneud hynny!
“Ond fe wnes i wirioni a doedd dim troi’n ôl.”
Yn fuan, taflwyd Munro i mewn yn y pen dwfn a chafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr mewn gêm gymhwyso Baralympaidd ym Mwlgaria.
Bryd hynny, nid oedd hi erioed wedi cystadlu mewn taekwondo cystadleuol, ac eithrio ychydig o gystadlaethau prawf.
“Hon oedd fy nghystadleuaeth gyntaf i erioed. Doeddwn i ddim hyd yn oed wedi gwneud unrhyw beth yn genedlaethol.
“Roedd yn swreal iawn. Roedd yr holl brofiad yn anhygoel. Roedd yn rhaid i mi ddysgu am y moesau, fel beth i'w wneud yn yr ardal gadw. Roeddwn i fel sbwng, yn amsugno popeth.
“Dim ond achos o weld beth allwn i ei wneud oedd e. Heb fentro, doeddwn i ddim yn mynd i ennill dim byd.
“Pan ddaeth yr enwau, dim ond un gêm oedd hi. Os ti'n ennill, Beth, a chael yr aur, ti’n mynd i Tokyo.
“A dyna ni. Roeddwn i mor benderfynol ac yn canolbwyntio. Roeddwn i eisiau mynd ar y mat a dangos beth allwn i ei wneud.
“Fe wnes i hynny ac fe gefais i aur. Roedd yn wych.”
Mae cynnydd Munro yn y gamp wedi bod yn gyflym ac er ei bod yn cyfaddef bod lle i wella o hyd, mae'n canolbwyntio ar ddangos ei chryfderau allan yn Japan.
“Roeddwn i wedi bod gyda Phrydain Fawr ers mis Mawrth, roedd y gêm gymhwyso ym mis Mai, felly dim ond dau fis oedd wedi bod ac roeddwn i'n mynd i Tokyo.
“Roedd yn anhygoel. Paris oedd y nod bob amser, ond yn sydyn iawn roeddwn i'n mynd i Tokyo!
“Roeddwn i wedi bod yn gwneud y gamp ers llai na dwy flynedd!.
“Mae'r hyfforddwyr wedi rhoi pethau strategol i mi weithio arnyn nhw. Mae'n rhaid i mi ganolbwyntio ar y cryfderau sydd gen i eisoes o ran pethau tactegol a thechnegol.
“Mae yna bethau dadansoddol hefyd – astudio’r gwrthwynebwyr i sicrhau fy mod i'n barod.
“Rhaid i chi gael eich cyflyru am chwe munud - tair rownd dau funud yr un - i roi eich gorau yn llwyr.
“Ond mae’n rhaid i chi fachu ar gyfleoedd gyda dwy law, neu un llaw, neu faint bynnag o ddwylo sydd gennych chi!
“Mae'n freuddwyd yn dod yn wir. Rydw i’n gorfod pinsho fy hun oherwydd fy mod i'n byw'r freuddwyd.
“Rydw i’n brawf i unrhyw berson anabl y gall unrhyw freuddwyd ddod yn wir.”