Skip to main content

Tri gymnast yn eu harddegau yn llamu i weithredu i gael mwy o ferched i fod yn actif

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tri gymnast yn eu harddegau yn llamu i weithredu i gael mwy o ferched i fod yn actif

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol mewn chwaraeon, o glybiau ar lawr gwlad i athletwyr elitaidd. Dyma pam mae Chwaraeon Cymru yn nodi’r Wythnos Gwirfoddolwyr (1 Mehefin i 7 Mehefin), drwy ddathlu’r bobl wych sy’n gwneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Mae Olivia Brunt (15), Carys Carpenter (18) a Nia James (19) o Academi Valley’s Gymnastics wedi gwirfoddoli gyda phrosiect Us Girls gan StreetGames, sydd â’r nod o roi cyfle i ferched ifanc 13 i 19 oed mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol i fod yn actif.

Drwy gyfuniad o gyllid gan StreetGames a Chronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru, maen nhw wedi gallu cynnig gweithgareddau chwaraeon i ferched ifanc yn eu cymuned.

Mae eu sesiynau wythnosol wedi bod yn cael eu cynnal yn llwyddiannus ers dros flwyddyn ac wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith y merched yn eu hardal, gyda rhai sesiynau’n denu cymaint â 40 o ferched.

Roedden nhw'n gwybod ei bod yn bwysig iawn bod y sesiynau'n adlewyrchu'r hyn roedd y cyfranogwyr eisiau ei wneud - sy'n ymddangos fel rhoi cynnig ar dipyn o bopeth!

Esboniodd Carys: “Rydyn ni’n gofyn i’r cyfranogwyr pa weithgareddau yr hoffen nhw eu gwneud yn ystod ein sesiynau gan ein bod ni’n gwybod ei bod yn bwysig bod gan y merched berchnogaeth a’u bod nhw’n gwneud gweithgareddau maen nhw’n eu hoffi. Rydyn ni'n gwneud gweithgareddau fel golff, pêl droed, pêl rwyd, gymnasteg, dawns, crefftau a rhedeg rhydd - unrhyw beth a dweud y gwir.

Rydyn ni’n dod â phobl i mewn i gyflwyno a hyfforddi sesiynau os nad oes gennym ni’r arbenigedd.”

Roedd y tair merch yn arfer cystadlu mewn gymnasteg gyda’r clwb, ond bellach maen nhw’n treulio eu hamser rhydd yn cynnal y sesiynau Us Girls wythnosol, ochr yn ochr â hyfforddiant gwirfoddol.

Dywedodd Nia: “Mae bod yn wirfoddolwr wedi bod yn rhan o fy mywyd i erioed ac mae’n rhywbeth rydw i wastad wedi mwynhau ei wneud, gan fy mod i’n rhoi yn ôl i bobl heb wobr faterol, dim ond y wobr o weld unigolion yn ffynnu mewn camp maen nhw’n mwynhau cymryd rhan ynddi. ”

Ychwanegodd Carys: “Rydw i wrth fy modd yn gwirfoddoli gan ei bod yn wych gwylio llawer o ferched ifanc yn datblygu mewn chwaraeon, ond hefyd gwylio eu hyder nhw’n tyfu.

“Fel gwirfoddolwr rydw i’n sicrhau fy mod i’n garedig ac yn gwrando, i wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo eu bod nhw’n gallu ymddiried yno i.”

Yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru, mae merched wedi adrodd yn gyson am lai o gyfranogiad mewn chwaraeon o gymharu â’u cyfoedion gwrywaidd. Canfu’r arolwg diweddaraf bod 43% o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon wedi’u trefnu y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â 36% o ferched. Mae lleihau'r anghydraddoldeb yma’n rhan hanfodol o'r prosiect.

Dywedodd Olivia: “Rydw i’n meddwl ei bod yn hynod bwysig cael merched ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol oherwydd mae’n rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu a dysgu sgiliau newydd fydd arnyn nhw eu hangen yn nes ymlaen yn eu bywydau.

Mae hefyd yn rhoi cyfle iddyn nhw wneud ffrindiau newydd a ffurfio cysylltiadau na fydden nhw wedi teimlo y gallen nhw eu gwneud o’r blaen efallai.”

Cytunodd Carys, gan ddweud: “Mae chwaraeon yn rhoi cyfle i ferched ifanc gadw’n heini wrth fwynhau eu hunain a gwneud ffrindiau. Mae bod mewn chwaraeon yn agor cymaint o gyfleoedd hwyliog ac yn helpu gyda straen ac iechyd meddwl.”

Olivia, Nia a Carys wrth Arwydd Valleys Gymnastics
Olivia Brunt, Nia James a Carys Carpenter

 

Er eu bod nhw i gyd wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn gymnasteg eu hunain yn iau, mae gallu rhoi'r un profiad i ferched eraill wedi rhoi’r un boddhad iddyn nhw.

Dywedodd Nia: “Mae gweld y merched sy’n mynychu ein sesiynau Valleys Girls ni’n datblygu, yn gwneud ffrindiau ac yn datblygu eu ffitrwydd corfforol wedi bod yn brofiad gwerth chweil.

Ychwanegodd Olivia: “Mae gwirfoddoli yn golygu llawer i mi gan ei fod yn rhoi cyfle i mi helpu eraill, yn enwedig yn y prosiect yma gan mai’r nod ydi gwneud y merched yn gyfforddus a theimlo eu bod wedi’u hysbrydoli.

“Mae gwirfoddoli wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi na fyddwn i hyd yn oed wedi meddwl eu gwneud cyn i mi ddechrau.

“Mae’n cynnig cymaint o fanteision – nid yn unig i chi, ond i’r bobl rydych chi’n eu helpu hefyd.”

Roedd y tair merch yn cytuno mai eu cyngor i unrhyw un sy'n ystyried gwirfoddoli yw mynd amdani! Maen nhw wedi ysbrydoli eraill o'u clwb i gymryd rhan yn y prosiect eleni ac yn gobeithio y gallant eich ysbrydoli chi i roi ychydig o amser i'ch clwb hefyd!

Edrychwch ar yr adnoddau i wirfoddolwyr yma!

Cliciwch yma i weld mwy am y prosiect Us Girls a sut gallwch chi addasu eich sesiynau ar gyfer merched ifanc. 

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yr wythnos yn mynd at achosion da ledled y DU drwy fentrau fel StreetGames a Chronfa Cymru Actif.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy