Skip to main content

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Ydych chi'n rhan o glwb criced yng Nghymru ac yn awyddus i wella eich clwb a'ch tiroedd? Wel, ydych chi wedi meddwl am godi arian drwy Crowdfunder a chynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru?

Mae clybiau lleol ledled Cymru yn gwneud yn union hynny.

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian ar gyfer prosiectau amrywiol - ac wedyn wedi derbyn grant cyllid cyfatebol gan Chwaraeon Cymru - i:

  • Buddsoddi mewn peiriannau newydd i gadw'r tir yn edrych yn gampus
  • gosod sgorfwrdd electronig newydd yn ei le
  • gwella ei bafiliwn gyda mynediad hygyrch ac ystafelloedd newid

Clwb Criced Dinbych yn codi arian ar gyfer sgorfwrdd electronig

Gan fynd ati i foderneiddio’r clwb, trodd Clwb Criced Dinbych at Crowdfunder a chynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru.

Gan benderfynu ei bod yn hen bryd cael sgorfwrdd electronig yn y clwb, lansiodd ymgyrch Crowdfunder yn y gobaith y gallai newid y sgorfwrdd hynafol a oedd bob amser angen ei atgyweirio ac a oedd wedi'i leoli y tu ôl i'r ardal i wylwyr. Ddim yn ddelfrydol!

Cafodd y clwb ei synnu pan aeth dros y targed o £4000, gan godi £5340 mewn dim ond 34 diwrnod. Nawr fe all y clwb elwa o sgorfwrdd electronig newydd sbon sy'n darparu diweddariadau fesul pêl yn hytrach na dibynnu ar chwaraewyr i newid y sgôr ar ddiwedd pob pelawd. Howzat!

Oes datrysiadau technolegol a fyddai'n gwella'r profiad yn eich cae criced chi? Edrychwch i weld ydych chi’n gymwys i gael cyllid Chwaraeon Cymru.

Clwb Criced Gwersyllt yn dod yn hwb cymunedol

Gyda help llaw gan Crowdfunder a Chwaraeon Cymru, mae Clwb Criced Gwersyllt Wrecsam yn tyfu’r gêm yn y gymuned.

Mae eisoes wedi denu cyllid sylweddol o Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, ond mae’r clwb wedi codi £15,000 pellach drwy Crowdfunder a Chronfa Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru.

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ailwampio ei bafiliwn, gan ei wneud yn fwy hygyrch a chynhwysol fel bod mwy o aelodau'r gymuned yn gallu mwynhau criced. Gyda sgwad criced anabl, tîm criced merched ac adran criced iau ffyniannus, mae'r clwb yn cymryd camau enfawr i ddod yn glwb cynhwysol.

Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi mewn ramp mynediad anabledd, gan wneud yr ystafelloedd newid yn fwy hygyrch a bydd yn helpu i greu hwb cymunedol fel bod y clwb criced wrth galon bywyd y gymuned leol.

Allai eich clwb chi fod wrth galon eich cymuned gyda rhai gwelliannau i’w gyfleusterau? Edrychwch i weld allech chi wneud cais.

Clwb Criced Casnewydd yn cadw ei diroedd mewn cyflwr ardderchog

Mae Clwb Criced Casnewydd yn glwb cymunedol amrywiol, ffyniannus, gydag 17 o dimau gwahanol, ac mae’n cael ei redeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr.

Ond wrth i unrhyw glwb ehangu a darparu mwy o gyfleoedd nag erioed o’r blaen, mae’r gofynion ar y tir yn gallu bod yn enfawr – ac nid oedd peiriannau’r clwb yn ddigon da. I ddechrau, fe wnaeth ei roler trwm dibynadwy, oedd wedi cael ei atgyweirio dro ar ôl tro, roi’r gorau i weithio yn y diwedd. Mae rholer yn ddarn hanfodol o’r cit mewn clwb criced gan fod ei angen i baratoi'r wiced a'r sgwâr.

Penderfynodd y clwb roi cynnig ar Crowdfunder a’r cynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru a chododd fwy na £15,000 ar gyfer y rholer newydd. Roedd yr ymgyrch codi arian mor llwyddiannus fel bod y clwb wedi rhoi cynnig arni eto y flwyddyn ganlynol. Y tro yma, ar gyfer peiriant torri gwair newydd. Roedd y gwirfoddolwyr yn treulio tua 12 awr yn torri'r gwair ond fe welodd y byddai peiriant torri gwair newydd, cyflymach yn haneru'r amser sydd ei angen - sy'n golygu mwy o amser i griced! Cododd £17,000 arall.

Ydi eich peiriannau a'ch offer chi wedi dyddio? Allai offer newydd wella eich cyfleuster chi? Allai fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar? Mwy o wybodaeth am gynllun Lle i Chwaraeon gan Chwaraeon Cymru.

Newyddion Diweddaraf

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy

Paneli solar yn pweru mwy na dim ond trydan yng Nghlwb Rygbi y Rhyl

Dyfarnwyd Grant Arbed Ynni o £20,473 gan Chwaraeon Cymru i Clwb Rygbi'r Rhyl.

Darllen Mwy

Gwell cyfleusterau chwaraeon i fanteisio ar y cynnwrf Olympaidd

Ydi'r pêl fasged 3v3 yn y Gemau Olympaidd wedi gwneud i chi neu eich plant ddyheu am fynd ar gwrt?

Darllen Mwy