Skip to main content

Tri sefydliad Cenedlaethol yn galw am weithgareddau eang i blant dros yr haf

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Tri sefydliad Cenedlaethol yn galw am weithgareddau eang i blant dros yr haf

Dylai pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael cynnig cyfleoedd hygyrch, di-dâl i gymryd rhan mewn chwarae, chwaraeon, celfyddydau a gweithgareddau awyr agored eraill yn ystod misoedd yr haf, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru, yr Urdd a Chwaraeon Cymru. 

Mae’r tri sefydliad cenedlaethol yn arwain galwad ar sefydliadau diwylliant a chwaraeon i ddod at ei gilydd er mwyn ychwanegu at y cyfleoedd o’r fath sy’n cael eu darparu fel arfer yn ystod yr haf, gyda phwyslais cryf ar iechyd corff a meddwl, hwyl a chyfle i gymdeithasu. Mae’r alwad yn cynnwys cais i Lywodraeth Cymru fuddsoddi’n sylweddol mewn plant yn ystod y cyfnod adfer, gan gynnwys cyllid penodol ar gyfer rhaglen uchelgeisiol o weithgareddau yn ystod yr haf. 

Plant yn neidio dros glwyd
Sporting Wales

 

Wrth wneud sylwadau ar y cynnig, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae un arolwg ar ôl y llall wedi dangos yr effaith sylweddol mae’r pandemig wedi’i chael ar fywydau plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydyn ni’n teimlo’n gryf y dylai fod lle canolog iddyn nhw yng nghynllun adferiad y Llywodraeth, ac na ddylai’r adferiad hwnnw ganolbwyntio ar eu haddysg yn unig, ond ar agweddau eraill allweddol o’u bywydau, sydd wedi dioddef gwahanol effeithiau. 

“Fel gwlad sy’n ymfalchïo yng nghyfoeth ei hetifeddiaeth chwaraeon a diwylliant, rydyn ni mewn sefyllfa wych i ddarparu cynnig cynhwysfawr i’n plant. Rydyn ni’n annog sefydliadau cenedlaethol i gydweithio er mwyn darparu cynnig cyffredinol o ran mynediad diogel i chwarae, chwaraeon a chyfleoedd eraill o safon uchel yn Gymraeg a Saesneg yn ystod y misoedd nesaf. Rwyf wedi fy narbwyllo y byddai cynnig o’r fath yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar fywydau plant a phobl ifanc.”

Mewn cynnig a rannwyd gyda’r Llywodraeth, mae’r tri sefydliad yn galw am ‘Haf o Hwyl’, a fydd yn cynnwys:

  • Cynnig isaf cyffredinol sef o leiaf un wythnos o ddarpariaeth am ddim gyda mynediad at gyfleoedd chwarae, chwaraeon a chyfoethogi dwyieithog eraill o safon uchel, gan gynnwys y celfyddydau, yn bennaf yn yr awyr agored; 
  • Cynnig lefel uwch ar gyfer y rhai sy’n debygol o fod angen mwy o gefnogaeth ac y mae’r pandemig wedi effeithio’n anghymesur arnyn nhw, gan gynnwys plant anabl a’r rhai sy’n dod o deuluoedd incwm isel; 
  • Cyfle i’r rhai mewn addysg Gymraeg sydd wedi colli peth hyder yn eu sgiliau iaith i gymryd rhan mewn gweithgareddau difyr trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i bob plentyn gael cyfleoedd ychwanegol i gymdeithasu – yr elfen maen nhw wedi sôn amdani fel y peth maen nhw wedi gweld ei eisiau fwyaf yn ystod y pandemig;
  • Ymdrech genedlaethol gydag ystod eang o sefydliadau yn addo’u cefnogaeth, gan fanteisio ar y cysylltiadau a’r partneriaethau cymdeithasol a gryfhawyd ar lefel genedlaethol a lleol wrth i ni frwydro ar y cyd yn erbyn y pandemig. 

Mae’r tri sefydliad mewn trafodaethau’n barod gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fe fyddant hefyd yn cynnal cyfarfod bord-gron ganol mis Ebrill ar gyfer sefydliadau ymbarél sydd â diddordeb mewn cefnogi a chyfrannu at y fenter genedlaethol. 

Ychwanegodd Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, Sarah Powell:

“Rydyn ni’n clywed mwy a mwy am yr effaith fydd pandemig Coronafeirws yn ei gael ar ein plant. Rydyn ni’n ymwybodol fod gweithgarwch corfforol yn medru chwarae rôl enfawr mewn cefnogi lles corfforol a meddyliol ein pobl ifanc, drwy gynnig lleoliad hwyl a chymdeithasol, sy’n eu galluogi i gymysgu gyda ffrindiau a chreu perthnasoedd newydd.

Mae hi wedi bod yn andros o anodd ar rieni i geisio cadw’u plant yn egniol dros cyfnodau clo’r gaeaf ac rydyn ni’n gobeithio fydd y fenter yma yn ei gwneud hi’n haws dros yr haf. Fel sector, mae yna ymdrech fawr ar waith yn barod ar y cynnigion i blant ar draws Cymru dros yr haf. Fe fydd y fenter yma yn sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle i fynychu rhywbeth sy’n lleol iddyn nhw.”

Dywed Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd:

“Mae pob un plentyn, be bynnag eu cefndir a’u sefyllfa ariannol, yn haeddu’r cyfle i brofi’r wefr a’r rhyddid o wneud gweithgareddau hamdden yng nghwmni ffrindiau, ac i ail-adeiladu eu hyder.

“Rwy’n hynod o falch fod yr Urdd yn rhan o’r weledigaeth ‘Haf o Hwyl’. Byddai hwn yn ddull arloesol i sicrhau fod cenhedlaeth o ieuenctid yn cael cynnig cyfle i fwynhau’r gweithgareddau a’r profiadau a wrthodwyd iddynt yn y flwyddyn a fu.”

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy