Wrth i'r Loteri Genedlaethol ddathlu ei phen-blwydd yn 27 oed, mae Chwaraeon Cymru yn annog cymunedau i feddwl sut gallent ddefnyddio peth o'r £30 miliwn sy’n cael ei godi tuag at achosion da bob wythnos.
Adeiladu Breuddwydion, Creu Newid yw ymgyrch ddiweddaraf y Loteri Genedlaethol ac mae wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl i feddwl sut gallai cyllid helpu eu cymuned eu hunain.
Ledled y DU, mae pedwar ffigur trawiadol yn cael eu dadorchuddio yr wythnos hon i nodi’r dathliadau pen-blwydd. Yng Nghymru, mae'r ffigur - wedi'i wneud o filoedd o beli loteri - i'w weld yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac mae'n tynnu sylw at waith Pêl Droed Stryd Cymru sydd wedi derbyn cyllid y Loteri Genedlaethol.
Scott Jeynes yw Rheolwr Prosiect Pêl Droed Stryd Cymru:
“Mae adeiladu breuddwydion, creu newid yn sicr yn rhywbeth rydyn ni’n gallu uniaethu ag o, 100%. Heb y Loteri Genedlaethol, ni fydden ni wedi gallu cyrraedd 150 i 200 o chwaraewyr oedd wedi’u heithrio’n gymdeithasol. Rydyn ni'n cynnig sesiynau pêl droed galw heibio a'r cyfle i chwarae mewn Cwpan Byd - ond mae'n gymaint mwy na hynny. Gan ddefnyddio iaith gyffredinol pêl droed, mae'r chwaraewyr yn rhannu eu baich gyda ni, am broblemau gyda budd-dal tai efallai, neu anghenion eraill, ac fe allwn ni ddatrys y broblem i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr help sydd arnynt ei angen. Mae'n brosiect sy'n newid bywydau ac rydyn ni'n gweld chwaraewyr yn mynd ymlaen i gael gwaith a gwella eu sefyllfaoedd.”
Ers i Chwaraeon Cymru ddechrau dosbarthu grantiau'r Loteri Genedlaethol gyntaf, mae wedi cefnogi 26,791 o brosiectau chwaraeon ar lawr gwlad yn uniongyrchol. Mae'r Loteri Genedlaethol wedi trawsnewid y tirlun chwaraeon - mae wedi adeiladu ac uwchraddio cyfleusterau, prynu offer ac ariannu cyrsiau cymorth cyntaf a hyfforddi.