Byw ar y Beic
Yr hyn wnaeth ei gymell oedd y dyhead i beidio â theimlo’n fyr ei wynt wrth ddringo grisiau, gorfod chwilio am ddillad sy'n ffitio'n well, a hefyd cymhelliant ei fab 16 oed, Taliesin, sydd wedi gwirioni mwy na’i dad hyd yn oed ar ffitrwydd.
O ran y cyflwynydd ar Radio Wales yn y bore, mae wedi datblygu o fod yn rhedwr Parkrun brwd i geisio cynnwys pedwar neu bum sesiwn wythnosol yn ei gampfa, ar y pwysau, neu ei obsesiwn newydd, beic Peloton lle mae'n hoff iawn o chwysu.
"Dydw i ddim wedi bod yn berson ffit erioed a dydw i ddim wedi serennu mewn chwaraeon," meddai.
"Ond pan ddaeth y cyfyngiadau symud, fe benderfynais i y byddai'n amser da i wneud rhywbeth mae'n debyg. Felly, fe wnes i drawsnewid y garej yn gampfa, cael rhai pwysau a phethau, ac wedyn dechrau rhedeg."
Ar ôl mentro cwblhau Parkrun 5k ar Gomin Clapham yn Llundain, ac wedyn rhoi cynnig ar fersiwn Caerdydd yng Ngerddi Sophia, mae'n dweud bod ei hyder a'i uchelgais wedi dechrau cynyddu.
"Fy nod i yn ystod y cyfyngiadau symud oedd gwneud Parkrun a gorffen rhedeg cyn i'r trefnwyr bacio popeth. Ar y dechrau, roedd yn ymddangos fel pe bai pawb yn clirio i fynd adref erbyn i mi orffen!
Problemau Pengliniau
"Ond fe wnes i ddod yn fwy heini'n raddol wrth i'r cyfyngiadau symud fynd yn eu blaen a chael fy amser i lawr o 43 munud i 31 munud a 45 eiliad.
"I foi mawr – rydw i dal yn 19 stôn, er ’mod i'n 21 stôn pan ddechreuodd y cyfyngiadau symud – ’dyw hynny ddim yn rhy ddrwg. Dydw i byth yn mynd i gael siâp fel Usain Bolt, ond fe wnes i ddal i redeg, rhedeg ar hyd y strydoedd, dal ati i wneud fy ymarferion, a dechrau mwynhau fy hun."
Yn anochel efallai, bu'n rhaid i rywbeth roi wrth i'w gorff ddod i arfer â gofynion anghyfarwydd. Ei bengliniau oedd y broblem, gan arwain at ostyngiad cyflym iawn yn y rhedeg ar darmac mor aml, a chyflwyno'r beic statig.
"Rydw i wrth fy modd ar gefn y beic. Fe allwch chi weithio’n galed heb deimlo bod eich pengliniau chi ar fin mynd."
Yr unig anfanteision i gampfa gartref hyd yma yn ôl pob tebyg yw pan wnaeth band ymwrthedd ei daro yn ei wyneb, gan roi llygad du iddo, a rhywbeth iddo siarad amdano gyda'i wrandawyr.
Nid yw cantorion opera gwrywaidd yn enwog am fod yn fain, ond mae Wynne yn credu mai ffordd o fyw sy’n bwysig yn y fan hyn, nid manteision cario llai o bwysau ar lwyfan.