Mae'n Wythnos Hinsawdd yng Nghymru! Y cyfle perffaith i dynnu sylw at yr hyn y mae Chwaraeon Cymru yn ei wneud i frwydro yn erbyn newid hinsawdd a’r rôl y gall pawb sy’n ymwneud â chwaraeon yng Nghymru ei chwarae.
Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu’r genedl i gyrraedd sero net erbyn 2030 a chreu Cymru wyrddach, gryfach a thecach.
Sut mae chwaraeon yn effeithio ar y blaned?
Rydyn ni i gyd wedi teimlo effaith newid hinsawdd ar chwaraeon yng Nghymru gyda gemau a digwyddiadau’n cael eu canslo neu eu gohirio oherwydd llifogydd neu wres eithafol. Ond sut mae chwaraeon yn cyfrannu at y broblem hinsawdd?
Efallai nad ydi chwaraeon yn dod i’ch meddwl chi pan fyddwch yn meddwl am allyriadau a llygredd ond, credwch neu beidio, mae ei ôl troed carbon byd-eang yn cyfateb i un gwlad o faint canolig, gan gyfrannu at amcangyfrif o 0.8% o allyriadau byd-eang yn ôl y Rapid Transition Alliance. Dau o’r prif gyfranwyr at y broblem o fewn y byd chwaraeon yw defnydd o ynni a theithio (cyfranogwyr a gwylwyr.)
Sut mae Chwaraeon Cymru yn helpu i fynd i'r afael â newid hinsawdd?
Mae wedi dod yn flaenoriaeth gan Chwaraeon Cymru i leihau ein hôl troed carbon ein hunain a hefyd cefnogi ac annog clybiau chwaraeon a sefydliadau eraill yn y sector i wneud newidiadau cynaliadwy eu hunain.
Dyma rai o'r camau sy'n cael eu cymryd...
Grant Arbed Ynni
Gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru, roeddem yn gallu cynnig cyfle i glybiau chwaraeon wneud cais am ein Grant Arbed Ynni yn gynharach eleni. Gallai clybiau chwaraeon wneud cais am grant o hyd at £25,000 y gellid ei ddefnyddio tuag at gost mesurau arbed ynni fel gosod paneli solar neu inswleiddio gwell yn eu lle.
Bydd y rhai sy’n llwyddiannus gyda’u ceisiadau nid yn unig yn elwa o filiau cyfleustodau is fel eu bod yn gallu dod yn fwy cynaliadwy yn ariannol, ond hefyd byddant yn gwneud eu rhan dros yr amgylchedd. Cyn bo hir byddwn yn cyhoeddi manylion y clybiau sydd wedi derbyn cyllid.
Cyllid Cyfalaf
Nid clybiau cymunedol yw’r unig rai i dderbyn buddsoddiad gwyrdd gan Chwaraeon Cymru. Mae rhywfaint o’n cyllid cyfalaf ni ar gyfer 2023/24, sy’n cael ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru, wedi mynd tuag at gyllido cynaliadwyedd ynni mewn canolfannau hamdden a chyfleusterau chwaraeon. Mae paneli solar a ffaniau dosbarthu gwres yn rhai o’r atebion gwyrdd a fydd yn cael eu gosod mewn gwahanol gyfleusterau hamdden ledled Cymru i leihau eu biliau cyfleustodau a’u gwneud yn fwy amgylcheddol gyfeillgar hefyd. Byddwn yn cyhoeddi manylion llawn y prosiectau hyn yn fuan.
Ceir Cronfa Trydan
Hwyl fawr danwyddau ffosil a helo ynni gwyrdd! Mae Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi mewn fflyd o geir cronfa trydan, gan leihau ein hallyriadau pan mae angen i ni wneud siwrneiau. Gall ein staff yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ddefnyddio’r cerbydau hyn yn ddiogel gan wybod eu bod yn gwneud siwrneiau gwyrddach.