Skip to main content

Y CLWB RYGBI O GYMRU SY’N SGORIO PWYNTIAU I'R BLANED DIOLCH I'R LOTERI GENEDLAETHOL

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y CLWB RYGBI O GYMRU SY’N SGORIO PWYNTIAU I'R BLANED DIOLCH I'R LOTERI GENEDLAETHOL

Mae prosiect yng Nghaerdydd y mae ei waith cymunedol hanfodol yn arloesi gyda chynaliadwyedd wedi cael ei ddewis gan Y Loteri Genedlaethol i serennu mewn fideo nodwedd arbennig. 

Dewiswyd Clwb Rygbi Pentyrch, dan arweiniad a dylanwad Gareth William, yr Ysgrifennydd Cynorthwyol, Cyfarwyddwr a Chyn-hyfforddwr, i ffilmio fideo addysgol manwl a thrwyadl ar gyfer ei nodweddion a rhinweddau amgylcheddol a’r defnydd o baneli solar trwy gydol y pandemig.

Dewiswyd Gareth i ymddangos ar un o ddau fideo nodwedd manwl sy’n adrodd hanesion elusennau blaengar yn amgylcheddol sydd wedi’u hariannu gan Y Loteri Genedlaethol o ystyried ymchwil newydd syfrdanol. 

Dywed saith allan o ddeg aruthrol o’r rheini a arolygwyd nad ydynt yn gwneud digon i achub y blaned, ac mae Gareth, sy’n byw gyda’i wraig Yvonne, dim ond 200m o’r clwb rygbi, yn annog clybiau rygbi eraill i ddilyn arweiniad Pentyrch.

Dywedodd y gŵr bytholwyrdd 72 mlwydd oed, sydd wedi cael cysylltiad gyda’r clwb am dros 40 mlynedd: 

 

“Nid oedd cael paneli solar ar y to yn rhywbeth y gallem ei fforddio yn y lle cyntaf. Ond ymgeision ni am arian y Loteri Genedlaethol, cael y golau gwyrdd a’u gosod tua mis yn ôl. Ein cam nesaf o ran cynaliadwyedd yw edrych ar osod pympiau gwresogi, yn hytrach na gosod dau foeler newydd, i gynhyrchu aer cynnes trwy dynnu dŵr i fyny o’r ddaear.” 


“Mae cynaliadwyedd yn gweithio mewn dwy ffordd. Mae eich ôl troed carbon mewn ffurf bositif a chadarnhaol – ac rydych yn helpu’r clwb yn ariannol ac arbed arian i’r busnes. Rydym mor falch i fod yn rhan o’r gyfres fideo hon, gan ysbrydoli pobl i fod yn wyrddach. Fy neges i glybiau rygbi eraill yw i fynd amdani. Gall bod yn ecogyfeillgar arbed miloedd o bunnoedd i glwb pob blwyddyn ac mae’n hawdd iawn i’w wneud. Pwy na fyddai eisiau ei wneud?” 


Mae ymchwil y Loteri Genedlaethol wedi datgelu fod 73 y cant ohonom wedi defnyddio mwy o drydan yn ystod y pandemig, tra bo traen wedi cyfaddef eu bod wedi rhoi’r system wresogi ymlaen mwy nag erioed o’r blaen. 

Ond mae bron hanner dal i gredu y bydd y byd yn lle gwyrddach ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gyda llawer yn cyfaddef y byddant yn newid eu harferion er gwell wedi’r cyfnod clo.

Mae’r Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi mwy na £2.2 biliwn mewn prosiectau a mentrau gwyrdd ar draws y sectorau treftadaeth, celfyddydol, cymunedol a chwaraeon ers 2010 – ac mae Chris Packham, y naturiaethwr teledu ac ymgyrchydd amgylcheddol, yn annog y cyhoedd i fod yn wyrddach o ystyried ei ymchwil diweddaraf. 

Roedd fideo Pentyrch yn un o ddwy ffilm nodwedd addysgol manwl a thrylwyr i godi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd achub y blaned, gyda Rosie Ramsey, y gomedïwraig ar y teledu yn serennu mewn tri gweithdy DIY ychwanegol gydag elusennau eraill a ariennir gan Y Loteri Genedlaethol.


Mae fideo Pentyrch yn dangos sut mae’r clwb wedi defnyddio dulliau amgylcheddol dyfeisgar i lywio eu hunain trwy’r pandemig. 

Mae Gareth wedi hyfforddi ochrau iau’r clwb, wedi gweithio fel dyn citiau ac yn rhedeg y llinell ym Mhentyrch. Mae ef hefyd wedi gwylio ei ŵyr, Hari, sy’n naw mlwydd oed, yn mireinio ei grefft ar gaeau hanesyddol y clwb sy’n 138 mlwydd oed.  

Mae’n byw, cysgu ac yn rhoi anadl i’r clwb rygbi ac wedi rhoi canmoliaeth a chydnabyddiaeth i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am ei alluogi i ffynnu. 

Ychwanegodd Gareth sy’n byw ym Mhentyrch gyda’i fab, Hywel, 42, a’i ferch yng nghyfraith Becky, 41 a’u plant Hari ac Erin, 25:  

“Dydy llawer o bobl ddim yn sylweddoli’r buddion a ddaw o brynu tocyn y Loteri Genedlaethol. Hyd yn oed os nad ydych yn ennill, fel fy hunan a’m gwraig, dydy pobl ddim yn sylweddoli bob tro eich bod yn cyfrannu tuag at elusen ynghyd ag ennill ychydig o arian. 

“Mae’r Loteri Genedlaethol yn rhoi cymaint o filiynau i gynifer o sefydliadau. Nid wyf yn gweld y gallem fod wedi fforddio ein paneli solar, na bod mor gynaliadwy ag yr ydym wedi bod, heb grantiau’r Loteri Genedlaethol.”

Mae’r Loteri Genedlaethol yn annog y cyhoedd i wneud cyfraniad hanfodol tuag at ddyfodol ein planed trwy wneud #AddunedByd ar gyfryngau cymdeithasol rhwng dydd Llun 19 Ebrill – 23 Ebrill. Mae’r #AddunedByd yn gyfle i chi wneud eich rhan dros yr amgylchedd trwy wneud ymrwymiad cydwybodol tuag at ddechrau neu roi diweddar ar rywbeth a allai fod yn helpu neu’n niweidio ein planed.

Newyddion Diweddaraf

Tri pheth y gall eich clwb criced eu cyllido drwy Lle i Chwaraeon

Darganfyddwch sut mae cymunedau lleol wedi dod at ei gilydd i gefnogi tri chlwb criced i godi arian…

Darllen Mwy

Gadael i Fyd Natur Ffynnu yng Nghlwb Pêl Droed Clarbeston Road

Mae Clwb Pêl Droed Clarbeston Road yn gwneud cyfraniad pwysig at fioamrywiaeth leol ar ôl plannu dôl…

Darllen Mwy

Chwaeroliaeth beicio yn barod i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf

Mae chwech allan o’r deg menyw sydd wedi cael eu dewis i rasio dros garfan beicio trac Tîm Prydain Fawr…

Darllen Mwy