Micky Beckett a Chlwb Hwylio Solfach
Ewch am dro i bentref tlws Solfach yr haf yma ac, wrth i’r tonnau dorri ar draeth yr harbwr yno, mae’n siŵr y byddwch chi’n clywed sylwebaeth y teledu am gamp benodol yn dod allan o’r ffenestri agored. Y gamp honno? Hwylio.
Oherwydd mae Micky Beckett, sydd wedi cael ei eni yn Solfach, ar fin cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd. Ac mae'n cyfaddef ei fod wedi treulio ei oes gyfan yn ceisio cyrraedd y Gemau.
Fe ddechreuodd y freuddwyd yn bump oed yn y pentref bach yn Sir Benfro. Mae Bella Prickett, ysgrifennydd aelodaeth Clwb Hwylio Solfach, yn ei gofio allan ar y tonnau yn ymarfer:
“Mae’n arwr i’r genhedlaeth nesaf. Rydyn ni wedi ei weld yn tyfu i fyny – rydw i'n cofio pan gafodd e ei eni - ac mae ei weld e’n gwneud pethau anhygoel mor gyffrous i bob un ohonom ni. Mae yna ymdeimlad enfawr o falchder – nid yn unig yn y clwb ond yn y pentref cyfan. Bydd pob teledu yn Solfach yn dangos yr hwylio,” chwerthodd Bella.
A ’dyw e ddim wedi anghofio ei wreiddiau. Mae’n dal i restru Solfach ar ei gerdyn rasio, mae’n mynychu digwyddiadau codi arian, yn ymweld â’r ysgol i gynnal sgyrsiau ac, yn ddiweddar, ef oedd y cyntaf i roi cynnig ar gychod newydd y clwb sydd wedi cael eu prynu gydag arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif:
“Fe gawson ni fwy na £19,000 ar gyfer pum cwch newydd y llynedd. Mae'n cymryd diwrnod llawn i'w rigio nhw i gyd ac fe ddaeth Micky yn ôl i roi trefn ar hynny i ni. Mae’n dal i chwarae ei ran.”