Skip to main content

Y gegin hyfforddi yn rhoi'r cynhwysion i athletwyr Cymru lwyddo

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y gegin hyfforddi yn rhoi'r cynhwysion i athletwyr Cymru lwyddo

Rydyn ni i gyd yn hoffi cael bwyd da. Gall pryd o fwyd swmpus roi cychwyn da i'r diwrnod yn y ffordd gywir neu droi gwg ben i waered.

Afraid dweud hefyd bod bwyd yn rhan hanfodol o fywyd. Gall yr hyn rydyn ni'n ei fwyta a'i yfed ddylanwadu ar ein hemosiynau, ein cynhyrchiant a’n hiechyd yn gyffredinol.

Mae hyn yn arbennig o wir am athletwyr elitaidd. Mae angen llawer o egni yn danwydd i’w trefn ymarfer heriol.

Ond gallant anghofio am ddeiet gytbwys yn aml, gan ganolbwyntio ar dactegau a hyfforddiant ffitrwydd.

Bydd llawer o athletwyr yn dibynnu ar bobl eraill i goginio iddyn nhw, oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod sut i goginio eu hunain neu oherwydd nad ydyn nhw'n gweld yr angen, 

Gall olygu nad ydyn nhw’n rheoli faint o fwyd maen nhw’n ei fwyta, a allai amharu ar eu perfformiad.

Gyda hynny mewn golwg, mae Chwaraeon Cymru wedi adeiladu cegin newydd sgleiniog yn ei ganolfan yng Ngerddi Sophia yng Nghaerdydd i annog athletwyr i wella eu sgiliau coginio.

Mae prif faethegydd dros dro Chwaraeon Cymru, Eoghan Hickey, yn honni: “Y rhifau sy’n hollbwysig.” 

Mae’n esbonio: “Mewn cylch pedair blynedd, bydd athletwr fel rheol yn bwyta ac yn yfed tua 8,000 o weithiau, sy’n synnu llawer o bobl.

“Yn aml mae’n ddwbl y nifer o weithiau y byddan nhw’n hyfforddi neu’n cystadlu.”

“Mae pob un o’r 8,000 yma’n gyfle i naill ai adfer, cael tanwydd ar gyfer y sesiwn nesaf, neu ddim ond cynnal iechyd ac imiwnedd da yn gyffredinol.

“Os gall athletwyr sicrhau bod yr 8,000 o brydau hynny yn canolbwyntio mwy ar berfformiad ac yn well i’w hiechyd yn gyffredinol, o safbwynt maeth, rydyn ni’n gweld hynny fel elfen gadarnhaol iawn.”

Efallai nad yw adeiladu cegin yn swnio fel cysyniad chwyldroadol, ond mae adeiladu un ar gyfer datblygu athletwyr yn unig yn rhoi Cymru gam ar y blaen.

Mae’r gegin arloesol wedi’i lleoli yn adeilad Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru. Mae'n cyfuno offer coginio ac addysgol i greu gofod lle gall athletwyr wella eu gwybodaeth goginio.

“Yn yr un ffordd ag y mae hyfforddwr cryfder a chyflyru angen campfa, fe fydden ni’n gweld y gegin fel ein campfa ni,” eglura Hickey.

“Dyma’n gofod ni i hyfforddi athletwyr yn y sgiliau ymarferol sydd arnyn nhw eu hangen, yn hytrach na dim ond gweithredu’n ddamcaniaethol a dweud wrthyn nhw sut dylen nhw fod yn bwyta.”

“Dyma’r gegin gyntaf o’i bath. A hyd y gwn i, yn y DU, rydw i’n credu mai dyma’r cyntaf o’r math yma o gyfleuster pwrpasol i hyfforddi athletwyr mewn sgiliau cegin.”

Cafwyd y syniad gwreiddiol yn 2018 ac mae’r gegin wedi bod yn broses sydd wedi cael ystyriaeth ofalus, dan arweiniad tîm maeth Chwaraeon Cymru.

“Mae wedi bod yn waith caled ar adegau yn bendant,” meddai Hickey.

“Roedd momentwm mawr yn y cam cynllunio ac adeiladu cychwynnol. Wedyn, wynebwyd rhwystr mawr, ac roedd y gwaith yn gorfod digwydd yn ysbeidiol rhwng y cyfnodau clo.”

Ar ôl tair blynedd o ddatblygu a stopio am yn ail, mae'r gegin newydd ar agor o'r diwedd.

Cynhaliwyd y sesiwn cyntaf ar Ionawr 13eg, gyda dau athletwr o sefydliad Bocsio Prydain Fawr y cyntaf i goginio pryd bwyd.

Defnyddiodd y ddau yr offer oedd ar gael iddynt i greu sawl ysgytlaeth blasus a chyrri.

Dim MasterChef na The Great British Bake Off cweit, ond anelu am fedalau aur mae’r athletwyr yma – nid ceisio creu argraff ar Paul Hollywood.

O ran yr hyn sydd tu mewn i'r gegin, mae'r teclynnau ffansi a'r dechnoleg o'r radd flaenaf wedi'u gwthio i'r naill ochr.

Yn lle hynny, mae gan y gofod offer syml, yn debyg i’r hyn fydd gan athletwyr yn eu cartrefi eu hunain.

Eoghan Hickey yn dysgu bocswyr, Garan ac Ioan Croft, am goginio a pharatoi bwyd yng nghegin Chwaraeon Cymru
Eoghan Hickey (dde) gyda'r bocswyr Garan ac Ioan Croft.
Doedd dim angen llond cegin o bethau ffansi, mae’n rhaid bod yn ymarferol fel eu bod nhw’n gallu trosglwyddo'r sgiliau hynny i'w gofod eu hunain.
Eoghan Hickey - Prif Faethegydd

“Mae’n bendant yn weddol sylfaenol am reswm,” meddai Hickey.

“Y pwrpas yw efelychu rhywbeth y byddech chi’n dod o hyd iddo mewn neuadd prifysgol neu yng nghartref yr athletwr ei hun.

“Doedd dim angen llond cegin o bethau ffansi, mae’n rhaid bod yn ymarferol fel eu bod nhw’n gallu trosglwyddo'r sgiliau hynny i'w gofod eu hunain.

“Os ydyn nhw'n defnyddio rhyw fath o gymysgydd ffansi ac wedyn yn methu ei fforddio na gallu ei ddefnyddio yn eu gofod eu hunain, dydi e ddim yn drosglwyddadwy i'r byd go iawn.

“Mae bwrdd gwyn sydd wedi’i adeiladu i mewn i’r wal, felly mae elfennau o drosglwyddo addysgol yn rhan o hyn. Ond fel arall, dim ond hobiau, sinciau ac unedau cyffredin sydd ar gael.”

Felly, efallai nad yw nodweddion y gegin yn tynnu dŵr o’r dannedd, ond mae Hickey a’i staff yn gobeithio y bydd pwrpas y gegin yn ddigon i fod at ddant hyfforddwyr ac athletwyr Cymru.

Mae sesiwn hyfforddi da angen campfa, trac neu arwyneb chwarae da. A pha le gwell i ddysgu am bwysigrwydd maeth i athletwyr na chegin sydd wedi'i dylunio'n benodol i wneud hynny?

“Rydyn ni eisiau iddo fod yn debyg i sesiwn campfa lle mae'n gysylltiedig â'r hyn rydych chi'n ceisio'i gyflawni,” ychwanegodd Hickey, a fu'n gweithio gydag athletwyr elitaidd yn y byd tennis, rygbi a golff cyn dod i Gaerdydd.

“Mae sgiliau coginio athletwyr yn rhwystr mawr iddyn nhw allu gwneud popeth y mae angen iddyn nhw ei wneud.”

Mae tîm maeth Chwaraeon Cymru yn gobeithio y bydd goresgyn y rhwystrau hyn yn rhoi mantais i athletwyr Cymru dros eu gwrthwynebwyr ac yn meithrin eu sgiliau bywyd hanfodol hefyd.

Ers cyhoeddi agoriad y gegin i athletwyr ar ei gyfryngau cymdeithasol, mae Hickey wedi derbyn llawer o ymatebion ac ymholiadau cadarnhaol.

“Mae wedi bod yn dda iawn. Hyd yn oed yng nghanol popeth arall sydd wedi bod yn digwydd yn fyd-eang, i chwaraeon yng Nghymru mae wedi bod yn gyfnod cyffrous.

“Ar gyfer misoedd Ionawr i Ebrill rydyn ni wedi cael dipyn o archebion gan amrywiaeth o wahanol chwaraeon. Popeth o focsio i bêl foli traeth, i bêl droed, a gymnasteg.”

Am y tro, dim ond athletwyr a hyfforddwyr sy'n rhan o grŵp Chwaraeon Cymru o gyrff rheoli cenedlaethol sy'n cael blas o’r cyfleuster.

“Mae'r cam rydyn ni ynddo ar hyn o bryd yn debyg i lansio cynnyrch meddalwedd, fe fyddwn ni'n ei alw'n gyfnod beta,” meddai Hickey.

“I ddechrau, byddwn yn ei gadw ar gyfer CRhC Cymru, felly ar draws y 45 o CRhC rydyn ni’n eu cefnogi, i’w hathletwyr ei dreialu ar sail sesiwn blasu. 

“Yn y dyfodol, rydyn ni’n gobeithio caniatáu i chwaraeon sydd y tu allan i’r CRhC hynny logi’r cyfleuster.

“Y lefel y tu hwnt i hynny, ymhell i lawr y llinell, yw gweld a oes unrhyw sgôp i’r cyhoedd ei ddefnyddio.”

Mae'r cam beta wedi bod yn llwyddiannus hyd yn hyn yn sicr, ond mae ychydig o elfennau o'r prosiect sydd angen peth amser yn y popty o hyd.

Mae Hickey a gweddill tîm Chwaraeon Cymru wedi cydnabod y gallai’r pandemig greu anawsterau o ran cyrraedd y cyfleuster i athletwyr nad ydynt wedi’u lleoli yng Nghaerdydd ac maent yn meddwl am ffyrdd o’u cael i gymryd rhan.

“Rydyn ni’n bendant eisiau ei wneud yn ofod hynod ddefnyddiol a hygyrch ar gyfer chwaraeon yng Nghymru yn gyffredinol,” meddai. 

“Rydw i’n meddwl mai elfen fawr o hynny yw cael rhyw fodd yn y dyfodol lle gallwn ni ffilmio cynnwys a ffrydio sesiynau, fel nad yw’n canolbwyntio’n ormodol ar Gaerdydd.”

“Fel bod athletwyr yng Ngorllewin Cymru a Gogledd Cymru, neu sydd ddim ar gael, yn parhau i allu elwa ohono.”

Gyda’r gegin yn weithredol erbyn hyn, mae gan Hickey a thîm maeth Chwaraeon Cymru yr holl gynhwysion cywir i addysgu athletwyr Cymru am sut i fod yn ‘seren bobi’ ac osgoi ‘gwaelod soeglyd’.

Gwlyiwch fideo

Cegin syml yn Chwaraeon Cymru

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy