Does dim rhaid i chi fod yn rasio drwy’r dŵr fel cystadleuydd i deimlo eich bod chi’n creu cynnwrf mawr yn y byd nofio.
Roedd Charlotte Howells, 18 oed, o Dreforys yn Abertawe yn gystadleuydd brwd ar un adeg, ond mae hi bellach yn treulio ei hamser sbâr yn helpu ac yn gwirfoddoli ar y cyd â Nofio Cymru.
Mae Charlotte yn aelod o Banel Ieuenctid Nofio Cymru a’i nod yw galluogi ac annog pobl i fwynhau eu hunain a bod yn actif drwy’r gamp.
Nod yr Wythnos Gwirfoddolwyr – sy’n cael ei chynnal eleni rhwng Mehefin 1 a Mehefin 7 – yw arddangos y rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae a’u pwysigrwydd mewn cymaint o feysydd.
Dangosodd astudiaeth ddiweddar bod 16.3 miliwn o bobl yn y DU wedi gwirfoddoli drwy grŵp, clwb neu sefydliad yn 2020/2021.
Mae gwirfoddoli yn chwarae rhan enfawr ym mhob camp, gyda gwirfoddolwyr ledled Cymru yn helpu i gynnal llawer ohonynt, yn enwedig ar lawr gwlad.
Er bod pandemig Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar ddigwyddiadau wyneb yn wyneb, dywedodd bron i un o bob pump (17%) o bobl eu bod wedi gwirfoddoli o leiaf unwaith y mis yn 2021-22, sy'n cyfateb i tua 9.2 miliwn o bobl.
Mae Charlotte yn un ohonyn nhw - yn helpu i wneud chwaraeon yn hygyrch yn y gymuned leol ac ar lefel genedlaethol.
Ar ôl dechrau nofio pan oedd yn ifanc, ymunodd â Rhaglen Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Cymru pan oedd ond yn 13 oed yn ei hysgol, Ysgol Gyfun Treforys.
“Fe gefais i roi cynnig ar sawl rôl wahanol o fewn gwahanol sefydliadau,” meddai.
“Rydw i’n nofiwr fy hun ac wedyn fe gefais i gyfle i helpu gyda Nofio Cymru a mwynhau yn fawr.
"Oherwydd fy mod i wedi dal ati, fe gefais i gyfle i ymuno â'r panel ieuenctid pan oeddwn i’n 15 neu’n 16 oed, sydd wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi."
Gyda Phanel Ieuenctid Nofio Cymru, helpodd y laslances i greu digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc.
“Fe wnaethon ni benderfynu cynnal ein cyfarfod ein hunain dan arweiniad gwirfoddolwyr yn y Pwll Cenedlaethol yn 2019, cyn pandemig Covid-19. Fe aeth yn dda iawn; roedd cymaint o wirfoddolwyr yn helpu. Fe helpodd y gwirfoddolwyr i gynnal y digwyddiad, o alw enwau i amseru'r rasys.
“Rydyn ni’n cynnal trafodaethau cyson gyda’r bobl o fewn Nofio Cymru, yn siarad am ein cynlluniau a sut i gael pobl ifanc i gymryd rhan, oherwydd yn amlwg mae’n rhan allweddol o’r gamp.”
“Roedd chwech ohonom ni i ddechrau, ond yn ddiweddar rydyn ni wedi cael aelodau newydd sydd wedi mynd â ni hyd at wyth i 10. Mae'n dda bod mwy o leisiau nawr i'n helpu ni i symud ymlaen.