Mae'r cyn redwr pellter hir a'r Olympiad Steve Brace - a redodd yng Ngemau Olympaidd yr haf 1992 a 1996 - yn credu mai gwirfoddolwyr yw'r sylfaen ar gyfer popeth mae Run 4 Wales yn ei gyflawni.
Y gwirfoddolwyr hyn sy’n rhoi o’u hamser ac yn gweithio’n galed i alluogi’r sefydliad elusennol yma i barhau â’i waith da yn hybu gweithgarwch corfforol i bawb.
Enillodd Brace, sydd bellach yn bennaeth Run 4 Wales, Farathon Paris yn 1989 a 1990 a’u harwain gartref ym Marathon Berlin yn 1991.
Mae’n gwybod beth sydd ei angen i redeg mewn pob math o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ac mae’n pwysleisio pwysigrwydd y rôl y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae wrth helpu Run 4 Wales i reoli Marathon Caerdydd, 10K Porthcawl a 10K Bae Caerdydd yn llwyddiannus.
Mae’r mis yma wedi cynnwys yr Wythnos Gwirfoddolwyr – cyfle i hyrwyddo a thynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud gan filiynau o wirfoddolwyr mewn cymaint o wahanol feysydd ledled y DU.
Mae Run 4 Wales, a sefydlwyd yn 2012, yn sefydliad elusennol nid er elw sy’n buddsoddi mewn prosiectau chwaraeon a chymunedol ar lawr gwlad.
Maen nhw wedi gwneud gwaith rhyfeddol yn adeiladu system mor fawr yng Nghymru, ond eu gwirfoddolwyr – sy’n cael eu galw yn Extra Milers - sy'n sicrhau bod y digwyddiadau mawr yn rhedeg yn esmwyth.
“Fe ddathlodd Run 4 Wales ei 10fed pen-blwydd yn ddiweddar, ac mae gwirfoddoli yn greiddiol i’r sefydliad,” meddai Brace.
“Dros y blynyddoedd, rydyn ni wedi adeiladu portffolio o ddigwyddiadau ar hyd arfordir de Cymru, felly rydyn ni wedi creu grŵp ffyddlon o wirfoddolwyr.
“Er enghraifft, roedd 2016 yn flwyddyn hollbwysig pan gawsom ni Hanner Marathon y Byd yn y dref. Roedd yn ddigwyddiad mor fawr fel na fydden ni wedi gallu ei gynnal heb wirfoddolwyr; mae cymaint o waith yn mynd i mewn i gau’r ddinas a sicrhau bod y diwrnod yn rhedeg mor esmwyth â phosib.
“Roedd cymaint i’w wneud ac felly mae gennym ni amrywiaeth o swyddi fel bod yn swyddogion, y tîm ar y llinell gychwyn, pobl yn dosbarthu dŵr, ein ‘gwrws’ ni, tîm o feicwyr ar y blaen i wneud yn siŵr bod y diwrnod yn rhedeg yn esmwyth. Mae fel system filwrol.”
Mae Brace yn credu bod y gwirfoddolwyr hyn yn pennu diwylliant a naws y sefydliad ac wedi newid y diwylliant yma dros y blynyddoedd, gan wneud yn siŵr bod pawb yn mwynhau'r rasys.
“Maen nhw’n chwarae rhan hollbwysig. Y gwirfoddolwyr ydi'r cyswllt rhwng y cyhoedd a'r digwyddiad.
“Mae pobl yn dod yn ôl mewn pob math o dywydd o hyd ac mae eu hymroddiad nhw’n hollbwysig i ni oherwydd, hebddyn nhw, ni fyddai unrhyw ddigwyddiad.
“Rydw i wedi dod o bersbectif perfformio a’r enwau mawr yma sy’n creu bri i’r digwyddiad, ond hefyd y clybiau rhedeg lleol a’r cymunedau sy’n gwneud cymaint i sicrhau bod yr holl bobl sy’n cymryd rhan a’r cyhoedd yn cael yr amser gorau posibl.”