“Rydyn ni dal mewn cyfnod gwrando a deall yng Nghymru,” meddai Steph, a ddechreuodd yn ei rôl newydd ddeufis yn ôl ar ôl gweithio gynt gyda sefydliad Triathlon Cymru.
“Rydyn ni’n ceisio darganfod beth sy’n digwydd yma o ran gweithgarwch dŵr a ble gallwn ni fel sefydliad fod yn rhan o hynny.
“Rydyn ni eisiau gweithio gyda sefydliadau a chyrff rheoli eraill. Dydyn ni ddim eisiau dod i mewn a cheisio cymryd yr awenau.”
Ar hyn o bryd, felly, mae hynny’n golygu edrych ar y niferoedd yn yr ymchwil cyfredol ac wedyn siapio rhaglen gyflwyno a all wneud gwahaniaeth o ran sicrhau bod nofio – a’r sgiliau bywyd gwerthfawr sy’n dod yn ei sgîl – yn weithgaredd sy’n agored ac yn hygyrch i bob cymuned.
Mae'r ymchwil sydd wedi’i wneud gan y BSA yn Lloegr, yn ogystal ag yn flaenorol gan Sport England, yn awgrymu nad yw nofio yn weithgaredd y gellid ei ddisgrifio fel gweithgaredd amrywiol.
Er bod y ffigurau cyffredinol ar gyfer plant ysgol wedi dangos nad yw 50 y cant ohonynt yn nofio, mae’r ffigur hwnnw’n codi i 80 y cant ar gyfer plant ysgol o dreftadaeth ddu ac Asiaidd.
Mae anghysondeb tebyg ymhlith oedolion lle mae nifer y rhai nad ydynt yn nofio o gefndir du ac Asiaidd mor uchel â 95 y cant.
Gall hynny arwain at ganlyniadau bywyd real i bobl sy’n byw ger dŵr neu’n ymweld â’r arfordir.
“Rydyn ni’n gweld llawer o bobl ifanc o gefndiroedd du ac Asiaidd sy’n boddi,” ychwanegodd Steph.
“Un o’n nodau ni yw lleihau’r achosion o foddi 20 y cant erbyn 2024. Rydyn ni wedi nodi bod problem yn amlwg ac rydyn ni eisiau newid y tirlun.
“Rydyn ni eisiau mynd â phobl ar siwrnai o addysg diogelwch dŵr, gan helpu i feithrin hyder mewn dŵr a goresgyn ofn o ddŵr os yw’n bodoli. Mae’r rhain yn broblemau go iawn yn ogystal â’r rhwystrau diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd a allai fodoli eisoes sy’n atal pobl rhag nofio.”
Un o'r grwpiau y mae'r BSA wedi cysylltu ag ef eisoes yn Lloegr, ac y bydd yn ceisio cysylltu ag ef yng Nghymru cyn bo hir, yw Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI).
Mae ymgyrch ddiogelwch FLOAT to Live yr RNLI, sy’n dysgu unrhyw un sydd mewn trafferthion yn y dŵr i ymlacio a phwyso’n ôl i adennill rheolaeth ar eu hanadl, eisoes wedi bod yn hynod lwyddiannus.
Nawr, mae’r BSA yn gobeithio y gall cydweithio pellach gyda’r RNLI mewn rhaglenni cymunedol penodol leihau nifer y achosion o foddi mewn ymgyrch o’r enw ‘Together We Can’.
“Un o’n prif sbardunau yw gwneud yn siŵr bod pawb yng Nghymru yn gwybod am y cod diogelwch dŵr,” ychwanegodd Steph, a gafodd ei magu yn Zimbabwe ac a ddysgodd nofio yn ifanc iawn yn ôl dymuniad ei rhieni. “Nofio ydi’r unig gamp a all achub eich bywyd chi.”
Hefyd mae'r BSA yn tynnu sylw at ddiffyg amlwg o ffigurau amrywiol o ran athrawon nofio, hyfforddwyr, achubwyr bywyd a staff cyrff rheoli. Eu nod yw gwella'r amrywiaeth honno 25 y cant o leiaf.
Fel camp gystadleuol, prin yw’r adegau pan ddaw nofwyr du i’r amlwg, ond y gobaith yw y bydd ymddangosiad nofwraig Olympaidd enwog Prydain Fawr, Alice Dearing – un o gyd-sylfaenwyr y BSA – yn darparu ffocws ar gyfer newid.
“Does dim llawer o fodelau rôl, felly rydyn ni eisiau i fwy o bobl fod yno i ysbrydoli,” meddai Steph.
“Ar ddiwedd y dydd, mae gennym ni’r un nod a’r un genhadaeth â’r cyrff rheoli, sef cael mwy o bobl i fod yn actif, drwy nofio, a chadw mwy o bobl yn ddiogel yn y dŵr.”
Penderfynir ar wobr Prosiect y Flwyddyn y Loteri Genedlaethol drwy bleidlais gyhoeddus. Ewch i dudalen we Gwobrau’r Loteri Genedlaethol www.lotterygoodcauses.org.uk/awards i ddarganfod mwy neu ddefnyddio’r hashnod Twitter #NLABlackSwimmingAssociation i bleidleisio dros y Gymdeithas Nofio i Bobl Dduon. Mae'r pleidleisio yn cau am 5pm ar Hydref 12fed.