Trwy weithio felly mae'r hyfforddwr yn dangos ei fod yn poeni am yr athletwr yn ogystal â'r canlyniadau.
Mae terminoleg hyfforddi fodern yn galw hyn yn ddull o weithredu sy'n rhoi lle canolog i'r athletwr - lle mae'r hyfforddwr yn gosod yr athletwr, a'i fuddiannau a'i les ef neu hi, yn gwbl ganolog ym mhopeth mae'n ei wneud bob amser.
Nid yw Gatland yn un am jargon. Mae'n well ganddo alw sgrym yn sgrym. Ond mae'n credu mewn gofalu am ei chwaraewyr ac mae'n credu bod ei berthynas bersonol â hwy'n allweddol i bopeth arall.
"Y peth anoddaf wrth hyfforddi yw sicrhau bod y berthynas yn briodol," meddai. "Rydych chi eisiau i'r chwaraewyr deimlo'n nerfus am ddewisiadau a pherfformiad, ond nid amdanyn nhw eu hunain.
"Fe ddylen nhw deimlo eu bod nhw wedi gwneud popeth maen nhw'n gallu i fod yn llwyddiannus a'ch bod chi fel hyfforddwr wedi eu helpu nhw i wneud hynny. Os nad ydyn nhw'n cyrraedd eu nodau, fe fyddan nhw'n gallu bod yn gyfforddus eu bod wedi mynd drwy'r prosesau cywir i gyd.”
Bydd Gatland yn enwi ei garfan derfynol o 31 o chwaraewyr ar gyfer Cwpan y Byd yn Japan y bore ar ôl y gêm olaf yng Nghaerdydd. A bydd y cyhoeddiad hwnnw hyd yn oed, meddai, yn cael ei drin mewn ffordd sy'n gwneud i gael eu gwrthod deimlo ychydig yn haws ei wynebu i'r chwaraewyr.
"Dyna'r peth anoddaf bob amser i hyfforddwr - dewis a siomi chwaraewyr fydd yn colli cyfle," ychwanegodd.
"Dyna'r her. Rydyn ni wedi siarad eisoes gyda'r chwaraewyr am sut bydd carfan Cwpan y Byd yn cael ei dewis a sut maen nhw eisiau clywed. Galwad ffôn? Neges destun? E-bost? Neu WhatsApp?
"Wrth gwrs, sut bynnag byddwn ni'n rhoi gwybod iddyn nhw, bydd sgwrs yn dilyn. Rydyn ni wedi mynd drwy'r broses honno ac fe fyddan' nhw i gyd yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd a beth i'w ddisgwyl."
Er bod Gatland yn mynd, ni fydd ei ddull cynnydd cam wrth gam o hyfforddi, gyda phwyslais ar berthynas iach gyda'i athletwyr, yn diflannu gydag ef.
Mae nifer o hyfforddwyr pêl droed yng Nghymru, ar lefel clwb a rhyngwladol, wedi ceisio ei holi am hyfforddi - rhywbeth yr oedd cyn reolwr pêl droed Cymru Chris Coleman yn fwy na pharod i gydnabod a ddylanwadodd ar ei ffordd o feddwl cyn yr Ewros yn 2016.
Hefyd mae'r genhedlaeth iau o hyfforddwyr yn awyddus i bwysleisio'r angen am ddull o weithredu sy'n edrych ar y darlun ehangach o les athletwr
Mae Steve Cooper, y Cymro ifanc sy'n rheoli Dinas Abertawe - a arweiniodd Lloegr i fuddugoliaeth yng Nghwpan y Byd D17 - yn gefnogwr arall i edrych ar y darlun mawr.
"Rydyn ni'n delio gyda phobl ifanc sydd eisiau llwyddo yn eu camp i gyd, ond nid yw'r siawns y bydd hynny'n digwydd o'u plaid," meddai Cooper.
"Felly, beth sy'n bwysig i hyfforddwr yw gwneud i chwaraewr deimlo nad yw ei werth fel person, fel unigolyn, yn cael ei ddiffinio gan ei lwyddiant neu ei fethiant ar y cae.
"Os bydd yn canolbwyntio ar hyfforddi'n galed, dysgu, gwrando, gwneud ei orau, a bod yn bositif ac yn gefnogol yng nghwmni aelodau eraill y tim, gan gadw pethau mewn persbectif, mae hynny wedyn yn cyfrannu at awyrgylch priodol.
"Os daw llwyddiant o hynny, mae'n fonws. Ond fe ddylen nhw farnu eu hunain ar sail sut maen nhw'n gwneud pethau o ddydd i ddydd - nid ar sail y canlyniad."