Main Content CTA Title

Y rhesymau pam cyllidodd Chwaraeon Cymru dri chlwb pêl rwyd

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y rhesymau pam cyllidodd Chwaraeon Cymru dri chlwb pêl rwyd

Gyda Chymru’n cystadlu yng Nghwpan Pêl Rwyd y Byd Vitality rhwng 28 Gorffennaf a 6 Awst, does dim amser gwell i glybiau pêl rwyd ledled y wlad feddwl am sut gallant ddatblygu a gwella.

A beth am gymryd ysbrydoliaeth gan dri chlwb pêl rwyd sydd i gyd wedi derbyn grantiau yn ddiweddar gan Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru?

Dyma’r rhesymau pam y gwnaethom eu cyllido:

Sefydlu clwb newydd a chreu cyfleoedd i ferched yn Sir Benfro

Bob dydd Mercher, mae Jill Bow yn cwrdd â grŵp o ffrindiau i chwarae yn y gynghrair pêl rwyd leol. Mae’n dîm cymdeithasol i oedolion yn Hwlffordd a doedd heb ei sefydlu’n ffurfiol fel clwb. Ond pan benderfynodd ei nithoedd y bydden nhw’n hoffi chwarae hefyd, roedd Anti Jill eisiau iddyn nhw chwarae yn ei chlwb hi.

I roi cychwyn i bethau, gwnaeth gais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru i brynu offer. Daeth y grant i bron i £3500 ac mae hefyd yn talu am logi lleoliad am yr ychydig wythnosau cyntaf. Mae'n golygu bod posib i blant roi cynnig ar y gamp heb i rieni orfod dod o hyd i'r arian ychwanegol. Mae'r arian hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn hyfforddi, dyfarnu, diogelu a chyrsiau cymorth cyntaf - yr holl bethau sydd arnoch eu hangen wrth sefydlu tîm iau.

Mae Jill yn gobeithio sefydlu tîm dan 10 a dan 12 fydd yn dechrau ym mis Medi. Dyma’r pumed clwb yn Sir Benfro nawr ac mae eisoes yn helpu i leihau’r rhestrau aros mewn clybiau eraill yn yr ardal.

Gallwch ddarganfod mwy am y Jets ar Facebook ac Instagram.

Cyngor Doeth: Ewch ati i greu mwy o gyfleoedd lleol i bobl ifanc sydd eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon drwy sefydlu adran iau newydd yn eich clwb. Cysylltwch â ni ac fe allwn ni helpu.

Jill Bowers a'i nithoedd
Jill Bowers a'i nithoedd

Hyfforddi mwy o hyfforddwyr i gyflwyno sesiynau yn Wrecsam

Bydd sylfaenydd Pêl Rwyd Dreigiau Gogledd Cymru yn cyfaddef bod pethau wedi bod yn anodd cyn iddyn nhw wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru.

Roedd Becky Roberts a hyfforddwr cynorthwyol yn mynychu pob un o sesiynau’r clwb gan mai nhw oedd yr unig rai oedd yn gymwys i wneud hynny. Roedd pris llogi lleoliad yn golygu na allai’r Dreigiau fforddio hyfforddi chwaraewyr eraill fel hyfforddwyr.

Hyd nes, hynny yw, i’r clwb lwyddo i sicrhau grant o fwy na £3000 gan Chwaraeon Cymru sydd bellach yn cael ei fuddsoddi mewn hyfforddi mwy o hyfforddwyr a dyfarnwyr a rhoi aelodau iau drwy hyfforddiant arweinwyr. Mae wedi gwneud byd o wahaniaeth yn y clwb a gyda mwy o sesiynau hyfforddi a’r aelodaeth yn datblygu mor gyflym, mae bellach wedi cyrraedd ei gapasiti.

Mae'r clwb hefyd wedi gwasanaethu fel hafan ddiogel i ferched ifanc sydd wedi symud i'r ardal o Wcráin.

Eu cynllun yw hyfforddi hyfforddwyr newydd fel eu bod yn gallu trefnu mwy o sesiynau, datblygu’r clwb ymhellach, meithrin doniau mwy o chwaraewyr pêl rwyd a dal ati i annog merched a genethod i fod yn actif.

Gallwch ddarganfod mwy am y Dreigiau ar Facebook ac Instagram

Cyngor Doeth: Ewch ati i uwchsgilio eich chwaraewyr neu wirfoddolwyr drwy wneud cais i Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru a gadewch i ni dalu am gost addysgu hyfforddwyr, cyrsiau dyfarnu a hyfforddiant cymorth cyntaf.

Cyflwyno pêl rwyd gan ddefnyddio'r Gymraeg ac ymgysylltu â ffoaduriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

Efallai mai clwb bach yw Llewesau Llambed – neu’r Lampeter Lionesses – ond mae ganddo uchelgeisiau mawr.

Roedd ymrwymiad y clwb i gynnig pêl rwyd drwy ddefnyddio’r Gymraeg yn wirioneddol amlwg i Chwaraeon Cymru yn eu cais i Gronfa Cymru Actif. Gyda'u cyllid, mae'r Llewesau yn hyfforddi eu haelodau Cymraeg eu hiaith i fod yn hyfforddwyr a dyfarnwyr. Rhagorol!

A nawr maen nhw ar genhadaeth i estyn allan at deuluoedd o Syria, Afghanistan ac Wcráin sydd wedi ailsefydlu yn yr ardal. Eisoes mewn trafodaethau gyda Swyddog Adsefydlu Ffoaduriaid Ceredigion, mae’r clwb yn awyddus i groesawu teuluoedd sydd eisiau cwrdd â phobl newydd a chwarae pêl rwyd.

“Rydyn ni eisiau i’r rhai sy’n cael eu hailsefydlu yn yr ardal deimlo’n rhan o’n cymuned ni a chael yr un cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon â phawb arall. Fe all chwaraeon oresgyn rhwystrau iaith a diwylliant, a gall ei effaith ailadeiladu, gwella, grymuso a chreu newid,” meddai hyfforddwr clwb Llewesau Llambed, Alex Fox.

Derbyniodd y clwb grant Chwaraeon Cymru o fwy na £1800 i fuddsoddi mewn offer, llogi lleoliad yn ogystal â chyrsiau dyfarnu a hyfforddi. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut maen nhw’n dod yn eu blaen.

Gallwch gael gwybod mwy am y clwb ar ei dudalen Facebook.

Cyngor Doeth Chwaraeon Cymru: Estynnwch allan at y cymunedau yn eich ardal chi. Rydyn ni’n credu bod pawb yn haeddu cael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon. 

menyw yn dal pêl-rwyd, a dwy arall yn ceisio ei rhwystro
Llun o ddigwyddiad Cwpan Pêl-rwyd y Byd gan glwb Llewod Llambed

Beth yw Cronfa Cymru Actif?

Mae Cronfa Cymru Actif yn grant sy’n cael ei gyllido gan y Loteri Genedlaethol i helpu clybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Mae’n cynnig grantiau rhwng £300 a £50,000, gan gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb, cynaliadwyedd ac arloesedd mewn chwaraeon.

Sut gall fy nghlwb i wneud cais am gyllid Chwaraeon Cymru?

Os ydych chi wedi cael eich ysbrydoli, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi. Os ydych chi eisiau datblygu eich clwb a bod gennych chi syniad da am brosiect, gwnewch gais i Gronfa Cymru Actif.

Hyd yma, mae Cronfa Cymru Actif wedi rhoi £79,124 i 57 o brosiectau pêl rwyd ledled Cymru.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy