Main Content CTA Title

Y rôl bwysig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ei chwarae yn nhwf rygbi merched Cymru

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Y rôl bwysig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ei chwarae yn nhwf rygbi merched Cymru

Byddai Cwpan y Byd llwyddiannus i Gymru yn Seland Newydd yn gweld y ‘llifddorau’ yn cael eu hagor ymhellach, a gêm y merched a’r genethod yn ‘ffrwydro’ yng Nghymru – yn ôl Arweinydd Graddau Oedran Benywaidd Undeb Rygbi Cymru (URC), Liza Burgess.

Mae Burgess yn gyn chwaraewraig ryngwladol dros Gymru, a chafodd ei chyflwyno’n rhan o Oriel Anfarwolion Rygbi’r Byd yn 2018. Mewn gyrfa a rychwantodd dri degawd, cymerodd ran yng ngêm ryngwladol gyntaf erioed Merched Cymru yn 1987, gan fod yn gapten ar ei gwlad 62 o weithiau, chwarae mewn pedwar Cwpan y Byd a hyfforddi mewn dau arall.

Mae’r gyn-athrawes o Lundain wedi gweld esblygiad, cynnydd mewn diddordeb, a chyfranogiad mewn rygbi merched a genethod yng Nghymru dros y blynyddoedd – gyda chyllid y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddosbarthu drwy Chwaraeon Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y twf.

A gyda phencampwriaeth Cwpan Rygbi'r Byd y Merched yn cael ei chynnal yn Seland Newydd ar hyn o bryd - mae Burgess wedi dewis dathlu effaith anhygoel y £30 miliwn a mwy yr wythnos sy’n cael ei godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da ar ddatblygiad rygbi merched a genethod yng Nghymru dros y blynyddoedd - o lawr gwlad i lefel elitaidd.

“Mae’r twf nawr yn anghredadwy,” meddai Burgess, wrth edrych yn ôl ar flwyddyn hynod bwysig a welodd URC yn dyfarnu cytundebau proffesiynol i 31 o chwaraewyr benywaidd yng Nghymru am y tro cyntaf.

“Mae’r llifddorau’n dechrau agor yn llydan. Ac mae mwy a mwy o gyfleoedd, hyd yn oed yn fasnachol hefyd,” meddai.

“Rydyn ni eisiau cyfateb yr hyn y mae’r dynion yn ei gael ac mae’n wych gweld sut mae’n esblygu.

“Mae gennym ni ffordd bell i fynd o hyd ond, o ran pa mor gyflym yw’r cynnydd, ac o ran faint o sylw rydyn ni’n ei weld, bydd yn rhoi anogaeth i’r merched ifanc yma godi’r bêl a chwarae’r gêm, mae’n enfawr.

“Mae yna rai modelau rôl gwych allan yna, o ran chwaraewyr ond hefyd y dyfarnwyr.

“Mae arian y Loteri Genedlaethol yn amlochrog, gan ddechrau gyda chyfleusterau a’r gefnogaeth gyfan honno i’r athletwr. Ar lefel gymunedol mae’n ymwneud â’r cyfleusterau oherwydd mae gallu darparu cyfleusterau hyfforddi dan do iawn i athletwyr yn hynod ddrud.

“Mae’r Loteri Genedlaethol yn helpu i gefnogi hynny. Wedyn o ran yr ochr elitaidd, rydych chi’n edrych yn fwy ar y gefnogaeth i’r athletwyr y mae’r timau ei hangen o ran gwyddoniaeth a meddygaeth, cryfder a chyflyru, cymorth meddygol. 

“Mae’r holl gefnogaeth yna’n dod gyda’r athletwr, gyda’r pecyn i’w cael nhw i’r lefel elitaidd yna. O hynny daw cyfleusterau i adfer gyda phyllau nofio, mae angen i athletwyr adfer, ac maen nhw’n cael eu hariannu gan y Loteri Genedlaethol. Yr holl bethau hynny nad ydych chi o reidrwydd yn meddwl amdanyn nhw.”

Mae carfan rygbi o ferched mewn cit porffor a melyn yn dangos eu ystumiau gwallgof gyda'u hyfforddwr gwrywaidd
Mae arian gan y Loteri Genedlaethol wedi helpu Valkyries Rugby i fwynhau eu camp.
Mae gennym ni lawer iawn o offer ac adnoddau ar gael ac mae hynny’n dod o gyllid, mae’n dod o’r cyllid rydyn ni wedi’i gael gan y Loteri Genedlaethol
Keith Pritchard, Hawks Gorllewin Abertawe

Yn ystod Cwpan Rygbi’r Undeb y Byd y Merched yn Seland Newydd, mae’r Loteri Genedlaethol yn tynnu sylw at sut mae ei chwaraewyr wedi cyfrannu mwy na £94.6 miliwn i gefnogi mwy na 3,200 o brosiectau rygbi’r undeb ar lawr gwlad yn y DU ers 1994, gan gynnwys cefnogaeth hanfodol i gannoedd o brosiectau sy’n datblygu rygbi merched a genethod ym mhob gwlad. 

Mae hyn yn cynnwys cyllid i gyrff rheoli cenedlaethol Rygbi’r Undeb yn Lloegr (RFU), yr Alban (SRU) a Chymru (URC) i wella’r ddarpariaeth rygbi i ferched a genethod, gan sicrhau bod y gêm yn datblygu llwybr o lawr gwlad i lefel elitaidd a meithrin talent ar gyfer eu timau cenedlaethol. 

Mae Burgess, yn ei rôl gydag URC, yn gweld drosti’i hun y camau sy’n cael eu cymryd i yrru gêm y merched yn ei blaen yng Nghymru. 

“Fi yw’r prif hyfforddwr ar gyfer y rhai dan 20 a’r rhai dan 18 oed, ac yn y bôn rydyn ni’n ailsefydlu’r llwybr,” ychwanegodd. “Dydyn ni ddim yn gwybod faint o ferched sydd allan yna, felly rydyn ni'n llythrennol yn dechrau o ddarn gwyn o bapur, ac roedd gennym ni fwy na 150 o ferched a wnaeth gais am y broses adnabod dan 20 oed. 

“Ac wedyn o hynny rydyn ni wedi didoli. Mae'n amser hynod gyffrous i fod yn rhan o hyn. Bydd rhai o'r chwaraewyr yma’n chwarae yng Nghwpan y Byd 2025, dyna'r realiti. Mae gweld beth sydd gennym ni’n dod i mewn nawr yn hynod gyffrous. Mae’n fraint bod yn rhan o hyn, mae’n gyffrous. Mae fy mhen i’n llawn bwrlwm drwy'r amser. 

“Hwn fydd y Cwpan Byd gorau o ran sylw a chefnogaeth. Mae'n anhygoel." 

Yn ogystal â’r cyllid mae’n ei ddyfarnu i URC i gefnogi twf gêm y merched yng Nghymru, mae dosbarthwr arian y Loteri Genedlaethol, Chwaraeon Cymru, wedi dyfarnu arian i filoedd o glybiau rygbi ledled y wlad dros y blynyddoedd hefyd, i’w helpu i ddatblygu a thyfu timau merched, ac annog cyfranogiad gan ferched. Roedd hyn yn cynnwys darparu cronfeydd brys hanfodol i lawer o glybiau yn ystod y pandemig i helpu i'w cadw i fynd. 

Mae rhai o’r prosiectau’n cynnwys Clwb Rygbi Unedig Dinbych-y-pysgod a’u partneriaeth gyda Rygbi Merched Sharks De Sir Benfro yn ne orllewin Cymru; Hawks Gorllewin Abertawe, Ceirw Nant yng Nghonwy a Chlwstwr Rygbi Valkyries Wrecsam yn y gogledd; a Rygbi Arrows Torfaen ym Mhont-y-pŵl yn ne ddwyrain Cymru. 

Derbyniodd Hawks Gorllewin Abertawe dros fil o bunnoedd o arian y Loteri Genedlaethol ac roedd arweinydd yr hwb Keith Pritchard wrth ei fodd gyda’r gwahaniaeth y mae’r cyfraniad ariannol wedi’i wneud. 

“Mae’r cyllid yn helpu mewn cymaint o wahanol ffyrdd,” meddai Pritchard. “Rydyn ni wedi bod eisiau gwneud Hawks Gorllewin Abertawe yn frand hynod ddeniadol, o ran cyfleuster, cit, cit hyfforddi, ac o ran bagiau taclo. 

“Rydw i wedi bod yn y byd rygbi ers pan oeddwn i’n chwech oed ac o edrych ar yr hyn sydd gennym ni a’r ffordd rydyn ni wedi sefydlu ein hunain o ran offer, mae’n debyg i dimau Uwch Gynghrair Cymru. 

“Mae gennym ni lawer iawn o offer ac adnoddau ar gael ac mae hynny’n dod o gyllid, mae’n dod o’r cyllid rydyn ni wedi’i gael gan y Loteri Genedlaethol a hefyd nawdd gwych gan fusnesau lleol.” 

Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi mwy na £30 miliwn yr wythnos at achosion da gan gynnwys cyllid hanfodol i chwaraeon – o lawr gwlad i lefel elitaidd. Mwy o wybodaeth am sut mae eich rhifau chi’n gwneud i bethau rhyfeddol ddigwydd yn: 

www.lotterygoodcauses.org.uk

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy