Main Content CTA Title

Y taflwr maen a gamodd i mewn i’r bobsled

Mae Adele Nicoll yn brawf byw o'r hen ddywediad bod newid cystal â gorffwys.

Ac os gallwch chi fwynhau’r ddau – fel mae’r Olympiad Gaeaf o Gymru wedi llwyddo i’w wneud yn ystod y misoedd diwethaf – gorau oll.

Mae Nicoll, o’r Trallwng, yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Beijing ar hyn o bryd fel rhan o garfan bobsled merched Prydain Fawr – un o ddwy Gymraes yn y Gemau, ochr yn ochr â Laura Deas.

Yn enillydd medal efydd yn y sgerbwd bedair blynedd yn ôl, bu Deas yn cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon cyn dod o hyd i’w thraed ar y rhew.

Mae'r un peth yn wir am Nicoll, er bod ei newid – o daflu maen i fobsled carfan Prydain Fawr - yn llawer mwy diweddar.

Dim ond 18 mis yn ôl y rhoddodd gynnig ar y gamp, ond dywed bod y cyfle i wneud rhywbeth newydd wedi ei hailfywiogi fel athletwraig.

“Rydw i’n meddwl bod bobsled wedi dod â fy hapusrwydd i yn ôl o ran bod yn driw i mi fy hun fel athletwraig,” meddai’r ferch 25 oed.

“A nawr mae fy rhaglen i’n llawer mwy unigol, wedi’i theilwra tuag at yr hyn rydw i’n mwynhau ei wneud, yr hyn rydw i’n dda am ei wneud.

“Fel taflwr arbenigol, fe dreuliais i lawer o amser yn meddwl bod angen i mi fod fel eraill oedd yn well na fi. Fe wnes i droi fy nghefn bron ar fy nghryfderau a dechrau ceisio bod yn gryfach a hyfforddi fel athletwr, a doedd hynny ddim yn fi yn naturiol.

“Wrth gwrs, mae’n rhaid i chi weithio ar eich gwendidau bob amser, ond o ran yr holl redeg a neidio, a’r holl bethau oeddwn i’n eu gwneud cyn taflu, mae’r cyfan yn ôl yn fy rhaglen i.”

Daeth y cyfnod gorffwys i Nicoll yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Fel llawer o bobl, rhoddodd y saib mewn bywyd amser iddi adlewyrchu ar bethau ac asesu ei blaenoriaethau.

Yn anuniongyrchol, arweiniodd y cyfnod clo hefyd at ei gweld yn hyfforddi ar fideo Instagram. Byddai'r clipiau hynny - a gafodd eu gweld gan seren bobsled brofiadol Prydain Fawr, Mica McNeill - yn arwain yn y pen draw at wahoddiad i hyfforddi gyda charfan bobsled Prydain.

"Pan oeddwn i'n ifanc, ac yn gwneud mor dda yn y taflu maen o gymharu â phethau eraill, roeddwn i'n hyfforddi fel rydw i nawr," ychwanegodd Nicol.

“Felly, efallai na ddylwn i fyth fod wedi ceisio hyfforddi fel taflwr. Efallai y dylwn i fod wedi hyfforddi fel Adele bob amser, os yw hynny'n gwneud synnwyr?

Adele Nicoll yn paratoi i daflu gydag ergyd wedi'i rhoi ar ei gwddf
Llun: Athletau Cymru

“Roedd gen i ormod o ffocws ac roeddwn i wedi ymgolli mewn un gamp ac un dull ac yn ceisio bron peidio bod y fersiwn gorau ohono i fy hun, ond ceisio bod y fersiwn gorau o’r model penodol hwnnw yr oedd pobl wedi dweud wrthyf i oedd y ffordd orau i fod, neu’n credu mai dyna'r ffordd orau i fod.

“Ond mewn gwirionedd, y peth gorau i’w wneud oedd bod y fersiwn gorau ohonof i fy hun.

“Rydw i’n meddwl, beth bynnag rydych chi’n ei fwynhau’n naturiol a’r hyn rydych chi’n ei wneud yn well, fe ddylech chi weithio ar eich cryfderau a pheidio ceisio bod yn rhywun arall, na cheisio bod yn athletwr gwahanol.

“Rydw i’n meddwl ’mod i wedi treulio llawer o amser yn meddwl, ‘O, bobol bach, mae rhai o’r merched yma gymaint yn fwy, gymaint yn gryfach, mae’n rhaid i mi fod yn fwy, mae’n rhaid i mi fod yn gryfach’. 

“Ond mewn gwirionedd, pan ddaeth hynny i ben, fe ddechreuodd fy nghryfderau i ddangos trwodd eto, sef y cyflymder a’r pŵer.

"Dydw i byth yn mynd i fod mor fawr a chryf â rhai pobl eraill sy’n taflu, ond dydyn nhw byth yn mynd i fod mor gyflym ag ydw i."

Ar ôl ffeirio rhywfaint o'i phwysau am y cyflymder cynyddol sydd ei angen yn y bobsled, mae Nicoll rywsut wedi cael y gorau o ddau fyd.

Nid yn unig mae hi wedi teimlo gwefr camp newydd sydd wedi arwain at wireddu'r freuddwyd o fynd i Gemau Olympaidd, ond hefyd mae ei pherfformiadau taflu diweddar wedi gwella yn hytrach na dirywio.

Mae’n anodd dweud ai effaith gorfforol, neu un emosiynol, yw hynny. Ond, yn sicr, gyda Gemau’r Gymanwlad ar y gorwel fel athletwr trac a maes yn cystadlu dros Gymru yn ddiweddarach eleni, mae’n ymddangos bod gan Nicoll y gorau o ddau fyd. 

“Rydw i wedi bod angen canolbwyntio mwy ar fobsled yn ddiweddar, yn amlwg. Ond mae'n ymddangos ei fod yn gweithio ar gyfer taflu beth bynnag!

“Rydw i wrth fy modd ac rydw i'n caru athletau llawer mwy, hefyd.

“Rydw i mor benderfynol ym mhopeth rydw i'n ei wneud, rydw i eisiau ei wneud hyd eithaf fy ngallu. Ac rydw i wastad wedi bod mor angerddol am wneud popeth rydw i eisiau ei wneud, a pheidio â gadael i un peth stopio rhywbeth arall.”

Bydd cystadleuaeth bobsled dau berson y merched yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn cael ei chynnal ar Chwefror 19.

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy
Rydw i wastad wedi bod mor angerddol am wneud popeth rydw i eisiau ei wneud, a pheidio â gadael i un peth stopio rhywbeth arall
Adele Nicoll