2. Dewiswch rywbeth rydych chi'n ei fwynhau
Dylai bod yn actif fod yn hwyl. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis rhywbeth sy'n rhoi gwên ar eich wyneb, rhywbeth rydych yn edrych ymlaen at gymryd rhan ynddo; efallai mai gweithgaredd gyda theulu neu ffrindiau neu amser ar eich pen eich hun rydych chi ei angen. Drwy ddewis rhywbeth rydych chi'n ei fwynhau rydych chi'n fwy tebygol o ddal ati yn y tymor hir a chyflawni eich nodau.
3. Sefydlu trefn bositif
Mae'n flwyddyn newydd a pha amser gwell i newid y ffordd rydych chi'n gwneud pethau neu gadarnhau’r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu o 2020. Meddyliwch am beth sy'n gweithio i chi, pa amser o'r dydd ydych chi’n hoffi ymarfer, a pha fath o ymarfer corff, gyda phwy, sut i'w gynnwys rhwng ymrwymiadau gwaith/bywyd, ac ati. Gall cael amseroedd ymarfer corff rydych chi’n edrych ymlaen atyn nhw a gwneud penderfyniadau bach sy'n eich helpu i gyflawni eich nodau roi hwb i'ch hyder a'ch hunan-barch.
4. Gwobrwyo eich hun
Rydych chi'n gwneud yn dda ac yn gwella, yn gwneud amser i sylwi ar eich cynnydd ac yn mwynhau'r teimlad positif rydych chi’n ei gael o hyn. Ewch ati i longyfarch eich hun a dathlu eich cynnydd gyda'ch anwyliaid. Efallai y gallwch chi wobrwyo eich gwaith caled gyda phâr newydd o esgidiau ymarfer neu dechnoleg glyfar o bosib. Byddwch yn teimlo'n dda am weithio'n galed am hyn a bydd hefyd yn helpu eich trefn ymarfer corff. Pan fyddwch yn cyflawni eich nodau, dathlwch, cael seibiant haeddiannol ac atgoffa eich hun o'r hyn rydych chi wedi’i wneud yn dda a pham wnaethoch chi gyflawni eich nod.