Dywedodd: "Mewn cymunedau canol dinas yng Nghaerdydd mae awydd mawr i chwarae criced, ond yn anffodus does dim digon o ddarpariaeth hygyrch. Gan fod llawer o deuluoedd yn yr ardal yn gweithio oriau hir a llafurus, does ganddynt ddim amser o hyd i allu mynd â'u plant i ymarfer criced mewn rhannau mwy deiliog o'r ddinas.
"Felly, rydw i’n cyflwyno criced stryd i'r plant yma i roi amgylchedd diogel a hwyliog iddyn nhw fwynhau'r holl fanteision cadarnhaol sy'n deillio o chwaraeon.
"Oherwydd rhesymau diwylliannol a chrefyddol, nid yw llawer o ferched a genethod yn cymryd rhan mewn llawer o weithgarwch corfforol, felly un o'm prif nodau yw darparu cyfleoedd mwy apelgar. Diolch byth, gyda help mawr gan Ayesha Rauf rydw i eisoes wedi llwyddo i sefydlu sesiwn i ferched yn unig ar gyfer merched 16+ oed bob wythnos yng Ngerddi Sophia, ac rydw i’n gobeithio gallu cynnal sesiynau drwy gydol y flwyddyn i ferched iau yn fuan hefyd.
"Drwy ymweld â chanolfannau crefyddol ac ymgysylltu â gwahanol gymunedau, fe welais i fod awydd am griced nos Sul ymhlith llawer o ddynion gan fod natur eu swyddi, patrymau gwaith ac ymrwymiadau eraill yn eu cyfyngu rhag chwarae mathau hirach o griced yn ystod y dydd ar benwythnosau. Bydd y gynghrair ryng-ffydd nid yn unig yn helpu mwy o bobl i allu chwarae criced ond bydd hefyd yn helpu gwahanol gymunedau i ddysgu mwy am ddiwylliannau ei gilydd."
Ychwanegodd Mojeid: "Rydw i wedi dechrau yng Nghaerdydd ond cyn bo hir byddaf yn symud i ardaloedd canol dinas Casnewydd hefyd. Byddaf yn ceisio siarad â chymaint o bobl â phosibl i ddarganfod pa rwystrau sy'n eu hatal rhag chwarae criced. Rydw i hefyd yn awyddus iawn i recriwtio digon o wirfoddolwyr, a'u cael ar y cyrsiau hyfforddi angenrheidiol fel bod yr holl sesiynau'n dod yn gynaliadwy ac yn rhedeg eu hunain."
Dywedodd Mark Frost, Rheolwr Cymunedol a Datblygu Criced Cymru: "Mae'n ddyddiau cynnar, ond rydyn ni’n falch iawn o'r cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma gan ein bod yn credu bod cyfle gwirioneddol i gynyddu a chynnal cyfranogiad mewn criced mewn cymunedau penodol yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Drwy ddarparu cynnig criced mwy bywiog sy'n addas i anghenion unigolion, mae gennym ni fwy o siawns o gynyddu cymhelliant a gallu pobl i fabwysiadu arfer criced am oes."
I gael gwybod mwy am gyfleoedd criced canol dinas yng Nghaerdydd, cysylltwch â Mojeid Ilyas drwy ffonio 07572 152241 neu e-bostio [javascript protected email address]