Yn ystod y cyfnod clo, dysgodd Snowsport Cymru Wales addasu a datblygu Gwobrau Slalom Cenedlaethol. Fel nofwyr oedd yn rasio yn erbyn ei gilydd yn erbyn y cloc mewn gwahanol byllau, roedd yn caniatáu i sgïwyr fesur eu hunain yn erbyn y goreuon yn y DU yn ystod cyfnod pan oedd cyfyngiadau yn gwahardd cystadlu mewn lleoliadau.
Yn draddodiadol, mae Cymru wedi cynnal pencampwriaethau domestig cenedlaethol ar y llethr sych yn Llandudno a Phont-y-pŵl, yn ogystal â phencampwriaethau Alpaidd allan ar y stwff gwyn go iawn.
Eleni, bydd y pencampwriaethau hynny’n cael eu cynnal yn y Swistir ddiwedd mis Mawrth wedi'u hymgorffori yn rhan o gystadleuaeth ryngwladol ehangach.
Mae'n strwythur sy'n darparu carreg gamu tuag at gyfranogiad yng Nghwpan Ewrop, Cwpan y Byd a'r Gemau Olympaidd yn y dyfodol.
Mae academïau rhanbarthol yng Nghymru sy'n bwydo i’r garfan genedlaethol, ac mae’r ieuenctid mwyaf addawol yn cael eu dewis gan Brydain Fawr a'u rhaglenni datblygu eu hunain.
Mae hwnnw’n llwybr sydd eisoes yn cael ei ddilyn gan dri o bobl ifanc sydd â chysylltiadau â Chymru, sydd wedi mynd i lawr y llwybr tuag at gystadlu ym Mhencampwriaethau Iau y Byd a Gemau Olympaidd Ieuenctid.
Mae Giselle Gorringe, 18 oed, eisoes wedi cael ei henwi fel Olympiad y dyfodol gan ei hyfforddwr, Chemmy Alcott, a gystadlodd yn y Gemau yn Sochi yn 2014.
Mae Ed Guigonnet yn 20 oed gyda chysylltiadau teuluol â Sir Benfro ac mae’n hyfforddi gyda thîm Cwpan Ewrop Prydain Fawr ac fe fu’n cystadlu ym Mhencampwriaethau Iau y Byd ym Mwlgaria y tymor diwethaf.
Yna mae Tom Butterworth, 19 oed, aelod o Dîm Sgïo GB a Glwb Sgïo Gorllewin Cymru a ddysgodd sgïo ar y llethr sych ym Mhen-bre. Dychwelodd Tom o Ganada yn ddiweddar lle bu'n cystadlu yng nghyfres Cwpan Gogledd America o rasys rhyngwladol.
Mae cynhyrchu eirafyrddwyr rhyngwladol yn dasg galetach yng Nghymru ar lethrau artiffisial, ond mae Maisie Potter o Fangor wedi herio’r drefn i ddod yn gydaelod o dîm Bankes ym Mhrydain Fawr, gan arbenigo mewn boardercross.
“Mae’n edrych yn addawol iawn yng Nghymru i unrhyw un sydd â diddordeb mewn chwaraeon eira,” ychwanegodd Kellen.
“Mae gennym ni 10 clwb sgïo yng Nghymru, sydd fel arfer wedi’u lleoli o amgylch y canolfannau ac rydyn ni’n cynnal cynlluniau cyfranogiad sy’n gallu bwydo i ddatblygu a chystadlu i’r rhai sydd eisiau hynny.”
Mae gan y gamp yng Nghymru sawl uchelgais mawr hefyd, gan gynnwys cynlluniau i adeiladu rhediad eira 400m dan do – a fyddai’r mwyaf yn y DU – fel rhan o ganolfan hyfforddi a chyrchfan wyliau ym Merthyr.
“Mae’r gamp yn tyfu bob blwyddyn ac mae angen i ni gynnig cyfleusterau i gyd-fynd â hynny,” meddai Kellen.