Mae pŵer pêl droed wedi helpu i adeiladu’r Wal Goch yng Nghymru, ond fe all symud mynyddoedd hefyd.
Gofynnwch i hyfforddwraig Tref y Barri Unedig, Chloe McBratney, sy’n credu bod y gamp sydd wedi mynd â chefnogwyr Cymru at drothwy rowndiau terfynol Cwpan y Byd hefyd yn ei helpu i gyflawni ei huchelgeisiau hyfforddi.
Y mis yma, mae pêl droed ar lawr gwlad wedi bod yn dathlu cariad cymaint o bobl at y gêm gyda help y Loteri Genedlaethol.
Yn ddiweddar, cyrhaeddodd ymgyrch Penwythnosau Pêl droed y Loteri Genedlaethol – sy’n sicrhau bod mwy na 100,000 o docynnau ‘Prynu Un Cael Un Am Ddim’ ar gael ar gyfer gemau clybiau pêl droed lleol a’r rhai sydd ddim yn y gynghrair ledled y DU – y Barri.
Yno mae Chloe, sydd wedi'i chofrestru'n ddall, ar hyn o bryd, yn hyfforddi tîm Pan Anabledd Tref y Barri Unedig.
Eu nod yw gwneud pêl droed mor gynhwysol â phosibl, ac mae Chloe yn ddiolchgar am gefnogaeth y Loteri Genedlaethol i helpu’r gêm gymunedol i ymdopi â chanlyniadau’r pandemig.
“Fe aeth fy rhieni â fi i chwarae pêl droed am y tro cyntaf pan oeddwn i’n chwech oed,” meddai.
“Roeddwn i mewn tîm prif ffrwd o fechgyn i gyd nes bod yn 11 oed, oherwydd o’r oedran hwnnw ymlaen ’dyw merched ddim yn cael chwarae gyda’r bechgyn mwyach.
“Wedyn fe wnes i adael pêl droed am ychydig o flynyddoedd, ond yn 17 oed, fe wnes i benderfynu fy mod i eisiau hyfforddi pêl droed anabledd.
“Fe wnes i gysylltu â Chwaraeon Anabledd Cymru ac fe wnaethon nhw roi gwybod i mi am y rhaglen hyfforddi ar gyfer y dyfodol ac arweiniodd hynny at gael hyfforddi’r Vale Reds, sydd wedi uno ers hynny â Thref y Barri Unedig.
“Fe ddechreuais i fel gwirfoddolwr a doeddwn i ddim yn gwybod llawer am hyfforddi ar y pryd ond, saith mlynedd yn ddiweddarach, rydw i bellach yn un o brif hyfforddwyr y clwb.”
Yn anterth y pandemig, roedd clybiau pêl droed fel y Barri yn brwydro am eu bodolaeth oherwydd canlyniadau methu gwneud unrhyw arian ar ddyddiau gêm.
Fel ymateb, darparodd y Loteri Genedlaethol £12.5 miliwn o gyllid brys i gefnogi’r gêm gymunedol, a chwaraeodd hyn ran hollbwysig wrth helpu clybiau fel y Barri i oroesi un o’r cyfnodau anoddaf yn eu hanes.
“Roedd e mor bwysig ein bod ni wedi cael cyllid gan y Loteri Genedlaethol yn ystod Covid-19 gan ein bod ni’n gymaint mwy na dim ond clwb pêl droed,” ychwanegodd Chloe.
“Mae’n deimlad anhygoel gwybod y gallwch chi ddod bob wythnos a gwella nid yn unig eich pêl droed, ond yr agwedd gymdeithasol hefyd.
“Rydw i’n meddwl bod pêl droed nid yn unig yn helpu eich iechyd corfforol ond eich iechyd meddwl hefyd.
“Mae dod yn ôl o holl darfu’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn bwysig iawn, gan mai pêl droed ydi’r unig beth cyson i lawer o bobl ag anableddau, felly mae’n grêt cael rhoi’r patrwm hwnnw iddyn nhw eto.”