Main Content CTA Title

Sylw i bartner: Youth Sport Trust

Mae’r rhai sy’n cael anhawster fforddio nwyddau yng Nghymru yn mynd i fanciau bwyd, tra mae rhai pobl sy’n poeni na fyddant yn gallu fforddio rhoi eu gwres ymlaen y gaeaf yma’n mynd i “fanciau cynnes” sy’n cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd a chanolfannau cymunedol.

Ond beth os ydych chi'n ifanc ac yn methu fforddio chwaraeon? Ble mae'r banc chwaraeon?

Dyma’r mathau o faterion pwysig sy’n codi ym meddyliau’r Youth Sport Trust – un o bartneriaid cenedlaethol Chwaraeon Cymru. Mae'r sefydliad yn ceisio grymuso pobl ifanc i greu dyfodol lle mae gweithgarwch corfforol ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, ond mae'r argyfwng costau byw wedi dwysau'r pryderon bod rhai pobl ifanc ar eu colled. 

O ystyried y cefndir hwnnw, mae’n bwysicach nag erioed gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir, ac un o’r nifer o ffyrdd y mae’r Youth Sport Trust yn ceisio rhoi hwb i bobl ifanc yw drwy’r Rhaglen Llysgenhadon Ifanc. 

Gyda chefnogaeth yr Youth Sport Trust ac yn cael ei gyllido gan Chwaraeon Cymru, cyflwynwyd y cynllun gyntaf yng Nghymru yn 2010 fel gwaddol y cais llwyddiannus i gynnal Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012. 

Yn ogystal â chynyddu cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon, mae’r rhaglen wedi helpu i ddatblygu cenhedlaeth o arweinwyr ifanc hynod fedrus.

Nawr, ddeng mlynedd ar ôl y Gemau, mae’r rhaglen wedi cael ei hadolygu ac mae’r Youth Sport Trust yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru, yn ogystal â Phwyllgor Cenedlaethol sydd wedi’i ffurfio o’r newydd, i ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer y rhaglen. Fe rannwyd eu cynigion yn ddiweddar yn y Gynhadledd Genedlaethol i Lysgenhadon Ifanc, i gasglu adborth gan bobl ifanc, swyddogion datblygu chwaraeon o awdurdodau lleol, cyrff rheoli cenedlaethol a phartneriaid cenedlaethol eraill.

Y syniad yw sicrhau y gall y llysgenhadon gael effaith mewn tri maes allweddol.

Yn gyntaf, bydd nod iddynt gael mwy o ddylanwad ar randdeiliaid ac effeithio ar eu penderfyniadau. Mae hynny'n golygu gwneud yn siŵr bod penaethiaid, arweinwyr AG neu gyrff rheoli chwaraeon yn cynnwys ac yn gwrando ar y llysgenhadon i sicrhau mai'r gweithgareddau chwaraeon sy'n cael eu cynnal - yn ystod amser AG, allgyrsiol neu chwaraeon ysgol - yw'r rhai y mae pobl ifanc eu heisiau mewn gwirionedd.

Efallai bod hynny’n swnio’n amlwg, ond mewn byd sy’n newid – fel y mae Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru wedi dangos – mae’n rhaid i weithgarwch corfforol fod yn berthnasol ac yn ddeniadol.

Dywedodd Steve Thomas, Rheolwr Datblygu Cymru yn yr Youth Sport Trust: “Os ydych chi'n darparu ac yn teilwra'r gweithgarwch i'r galw ac wedyn yn cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn hwyluso'r gweithgarwch hwnnw, mae gennych chi well siawns o greu amgylchedd i gynnal cyfranogiad.”

Yn ail, yr uchelgais yw i’r llysgenhadon, fel arweinwyr, drefnu a hwyluso gweithgareddau gyda’u cyfoedion ac nid dibynnu ar athrawon neu hyfforddwyr yn unig.

Yn drydydd, dylai'r llysgennad allu ysbrydoli. Y syniad yw, os oes gennych chi’r modelau rôl cywir, fe allwch chi ymgysylltu â phobl a helpu i’w hysbrydoli nhw i wneud rhyw lefel o weithgarwch corfforol o leiaf.

Mae'r YST hefyd yn ceisio ymwneud mwy ag ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae cynlluniau i gefnogi addysg actif drwy Fagloriaeth Cymru, cynghorau ysgol a rhaglenni pwrpasol eraill. Mae’r YST hefyd, ar hyn o bryd, yn helpu Cymdeithas Bêl-droed Cymru i ddatblygu fframwaith ysgolion cynradd ac AAA newydd i sicrhau bod mwy o ferched a bechgyn yn parhau i chwarae a mwynhau’r gêm fel gwaddol parhaus i gyfranogiad Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022. 

Newyddion Diweddaraf

97 o Glybiau Chwaraeon yng Nghymru wedi cael eu cefnogi gyda Grantiau Arbed Ynni

Mae 97 o glybiau chwaraeon ledled Cymru wedi cael cyllid gan Chwaraeon Cymru i wneud gwelliannau arbed…

Darllen Mwy

£1.7m mewn Grantiau Arbed Ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru yn dod yn wyrddach, ac yn rhatach i’w cynnal, diolch…

Darllen Mwy

Crynodeb o Chwaraeon yng Nghymru yn 2024

Os yw'n ddigon da i Spotify, mae'n ddigon da i ni.2024 oedd y flwyddyn pryd torrwyd mwy o recordiau,…

Darllen Mwy