Mae athletwyr a thimau Cymru wedi rhagori mewn chwaraeon perfformiad uchel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y canlynol:
- Mwy o fedalau nag erioed yng Ngemau Cymanwlad 2014 a 2018.
- Mwy o athletwyr nag erioed o Gymru’n ennill medalau yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio.
- Tîm pêl droed dynion Cymru’n cyrraedd rownd gyn-derfynol yr Ewros yn 2016.
- Lle yn rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd 2019 ar ôl ennill teitl y Chwe Gwlad.
- Geraint Thomas yn ennill y Tour de France yn 2018.