Os ydych chi’n athletwr talentog, mae cefnogaeth ar gael i’ch helpu chi ar hyd y daith.
Mae gwahanol grantiau ar gael i athletwyr yn ogystal â gwasanaethau cefnogi arloesol gan dîm Athrofa Chwaraeon Cymru.
Y nhw yw’r tîm tu ôl i’r tîm sy’n sicrhau bod athletwyr yn cael cefnogaeth ac yn cael eu paratoi i fod y gorau y gallant fod wrth gystadlu.
Mae’r Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol yn darparu cefnogaeth hanfodol i athletwyr yn eu systemau ac yn darparu mynediad i hyfforddiant a chystadlaethau o’r safon uchaf.
Edrychwch am fwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i athletwyr.