Nid yw canllawiau cyfredol llywodraeth y DU ar wneud ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd yn ystyried merched sy’n ymgymryd â lefel uwch na’r isafswm o weithgarwch corfforol a argymhellir ac sydd eisiau dal ati gyda hyn drwy gydol eu beichiogrwydd.
Mae’r ystyriaethau o ran ymarfer corff a beichiogrwydd yn cynnwys:
Cyn beichiogrwydd: mae’n bwysig meddwl drwy’r posibilrwydd o unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â chwaraeon neu ymarfer corff a allai gael effaith ar ffrwythlondeb e.e. ydych chi'n cael digon o faeth i gefnogi'r ymarfer corff rydych chi'n cymryd rhan ynddo - os nad ydych, ni fydd eich corff yn blaenoriaethu ffrwythlondeb.
Beichiogrwydd: oes unrhyw resymau pam y byddai ymarfer corff yn ystod eich beichiogrwydd yn beryglus? e.e. chwaraeon ymladd.
Os nad oes, gall ymarfer corff ddarparu llawer o fanteision yn ystod beichiogrwydd
Dylai cyngor ar ymarfer corff a chwaraeon fod yn unigol ar gyfer pob athletwr a beichiogrwydd ond mae darnau pwysig o gyngor cyffredinol y gallwch eu dilyn.
Mae'n bwysig gwybod pryd i roi'r gorau i wneud ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd ac, os oes gennych chi unrhyw bryderon, dylech siarad gyda'ch meddyg.