Skip to main content

Cylch y Mislif a chwaraeon

Fe allai cylch y mislif fod yn allweddol i ddatgloi eich potensial mewn chwaraeon! 

Beth yw cylch y mislif?

Mae cylch y mislif yn batrwm amrywiol o newidiadau hormonaidd sy'n gysylltiedig â’r system atgenhedlu. Gall y newidiadau hyn mewn hormonau effeithio ar eich corff cyfan chi, gan achosi symptomau cadarnhaol a negyddol.

Manteision o gael cylch y mislif

Does dim rhaid i gylch y mislif fod yn ofid a digalondid – mae’n beth naturiol a gall fod yn arwydd o iechyd. 

Dyma rai manteision o gael cylch y mislif rheolaidd...

  • Mae'n dangos bod gennych chi egni i gymryd rhan, perfformio ac adfer o chwaraeon neu ymarfer corff, 
  • Mae'n bwysig i iechyd eich calon a'ch esgyrn, y swyddogaeth imiwnedd a thyfiant
  • Gall hormonau sy’n gysylltiedig â chylch y mislif fod o fudd i'ch hwyliau a'ch gwybyddiaeth chi

Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu chi i ddeall cylch y mislif yn well ac ystyried sut gallwch chi roi strategaethau ar waith i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch cylch a'ch hyfforddiant!