Skip to main content

Deall eich cylch y mislif

Mae'n bwysig eich bod yn deall y newidiadau i'ch corff drwy gydol cylch y mislif er mwyn i chi allu gweithio gyda’r hormonau hyn er mwyn sicrhau’r hyfforddiant a’r perfformiad gorau posib. Bydd yr wybodaeth ganlynol yn eich helpu chi i ddeall cylch y mislif yn well ac ystyried sut gallwch chi roi strategaethau ar waith i sicrhau eich bod yn cael y gorau o'ch cylch a'ch hyfforddiant! 

Beth yw cylch y mislif?

Mae cylch y mislif yn broses naturiol, gylchol yn y corff benywaidd sy'n cynnwys cyfres o newidiadau hormonaidd a ffisiolegol. 

Dyma rai pwyntiau allweddol am y cylch:

Beth yw hyd cylch y mislif?

Gall cylch y mislif amrywio o ran hyd ond fel arfer mae’n amrywio o 21 i 35 diwrnod, yn dibynnu ar yr unigolyn. 

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mislif a chylch y mislif?

Mae mislif yn cyfeirio at y dyddiau pan fydd menyw yn gwaedu. Mae cylch y mislif, ar y llaw arall, yn cwmpasu'r amser cyfan rhwng diwrnod cyntaf un mislif a diwrnod cyntaf y mislif nesaf. Mae'n bwysig nodi bod llawer o newidiadau yn digwydd drwy gydol cylch y mislif, nid dim ond yn ystod y mislif.

Dulliau Atal Cenhedlu Hormonaidd 

Efallai y bydd gan ferched sy'n defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd, fel unrhyw bilsen atal cenhedlu, amrywiadau hormonaidd gwahanol o gymharu â chylch y mislif sy'n digwydd yn naturiol. 

Beth yw'r camau cylch y mislif? 

Gellir rhannu cylch y mislif sy'n digwydd yn naturiol yn gamau amrywiol sy'n cael eu diffinio gan newidiadau mewn lefelau hormonau. Mae'r camau hyn yn cael effeithiau gwahanol ar y corff a gallant effeithio ar les corfforol ac emosiynol unigolyn. Bydd y fideo olrhain yn rhoi trosolwg gwell i chi o'r camau hyn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gamau'r cylch yma.

Mae deall cylch y mislif yn hanfodol ar gyfer deall sut mae eich corff yn ymateb i'r newidiadau mewn hormonau a'r effaith gadarnhaol neu negyddol ar unrhyw ymarfer corff rydych chi’n ei wneud. Unwaith y byddwch chi'n deall eich cylch eich hun yn well, bydd yn haws manteisio ar gylch y mislif i sicrhau eich bod yn rhoi’r perfformiad chwaraeon gorau posib.

Tracio eich cylch

Gall monitro newidiadau sy’n cael eu hachosi gan amrywiadau hormonaidd fod yn ddefnyddiol ar gyfer:

  • Monitro a rheoli symptomau.
  • Sylwi ar newidiadau i'ch symptomau.
  • Sylwi ar fislif hwyr neu golli mislif.
  • Tracio unrhyw newidiadau hormonaidd sy'n digwydd hyd yn oed os nad ydych yn cael mislif.

Gall lawrlwytho ap tracio ar eich ffôn eich helpu i fonitro newidiadau a symptomau sy'n digwydd ar draws eich cylch (cofiwch nad eich mislif ydi'r unig newid sy'n digwydd mewn cylch).

Gall fod yn ddefnyddiol tracio eich cylch ochr yn ochr â'ch nodiadau hyfforddi. Drwy wneud hynny, fe allwch chi gydberthnasu unrhyw wahaniaethau i'ch cylch ag unrhyw gystadlaethau arwyddocaol neu newidiadau sydd wedi’u gwneud i hyfforddiant.

Mae’r apiau tracio defnyddiol yn cynnwys Clue, FitrWoman neu AppleHealth. Efallai y bydd eich oriawr chwaraeon yn darparu system dracio debyg hefyd a all fod yn haws ei monitro ochr yn ochr â hyfforddiant.

Beth os nad ydw i’n cael mislif?

Mae cylch y mislif yn ddangosydd defnyddiol o'ch iechyd cyffredinol, ac ni ddylech anwybyddu colli mislif. Mae sawl esboniad am golli mislif a gall siarad gyda rhywun am hyn eich helpu chi i ddeall yn well beth allai fod yn digwydd i achosi i chi golli mislif.

Dydw i heb ddechrau cael mislif eto…

Cyfeirir at hyn fel amenorea cynradd. Os nad ydych chi wedi dechrau cael mislifau rheolaidd erbyn troi’n 15 oed, dylech drefnu apwyntiad gydag ymarferydd iechyd (meddyg teulu / ymarferydd nyrsio) i ymchwilio i achos hyn.

Mae cylch y mislif yn chwarae rhan bwysig yn eich datblygiad, ac felly mae'n bwysig sefydlu cylch rheolaidd.

Roedd fy mislif i’n rheolaidd ond mae wedi stopio bellach …

Gall llawer o sefyllfaoedd olygu bod mislif yn dechrau'n hwyr neu'n diflannu am gyfnod, fodd bynnag, os nad ydych chi wedi cael mislif am 3 mis neu fwy, dylech drafod hyn gyda'ch meddyg teulu.

Gall diffyg mislif fod yn gysylltiedig â Diffyg Egni Cymharol mewn Chwaraeon (REDS). Mae hwn yn ddiffyg egni sy’n cael ei achosi gan beidio â bodloni gofynion maeth eich hyfforddiant.

I gael rhagor o wybodaeth am REDS gallwch edrych ar y wefan ddefnyddiol yma.

Os ydych chi'n poeni am REDS ac yn gweld eich meddyg teulu, mae taflen wybodaeth ddefnyddiol y gallwch chi fynd gyda chi i'ch apwyntiad ar ein gwefan ni.

 

Os ydych chi’n defnyddio dull atal cenhedlu hormonaidd fel y bilsen neu goil Mirena, nid mislif ydi’r gwaedu rydych chi’n ei gael unwaith y mis. Dydi'r bilsen ddim yn dderbyniol yn lle cylch mislif naturiol ac ni ddylid ei ddefnyddio i fynd i'r afael â diffyg mislif.

Dulliau Atal Cenhedlu Hormonaidd

Mae dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn bwynt trafod pwysig i athletwyr benywaidd gan ein bod yn gwybod y gallant effeithio ar berfformiad chwaraeon. Isod mae rhywfaint o wybodaeth am ddulliau atal cenhedlu hormonaidd a phethau allweddol i'w hystyried.

Mae gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu hormonaidd, gall rhai o’r rhain gael eu cymryd ar ffurf pilsen, tra bo eraill yn cael eu rhoi yn y corff (e.e. mewnblaniad yn y fraich neu IUD yng ngheg y groth) ac mae’r rhain yn rhyddhau hormonau’n raddol dros nifer o flynyddoedd.

At gyfer beth mae’r rhain:

Mae dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn cael eu defnyddio yn bennaf fel dull atal cenhedlu i osgoi beichiogrwydd ond hefyd i reoli symptomau fel crampiau yn yr abdomen a hwyliau’n newid neu i atal mislif ar gyfer hyfforddiant neu gystadleuaeth.

Sut maen nhw'n gweithio?

Mae'r hormonau synthetig yn rheoli’r hormonau naturiol yn y corff ac yn atal cylch y mislif a mislif naturiol. Mae dulliau atal cenhedlu hormonaidd yn gweithio drwy atal ofyliad, atal y newidiadau mewn hormonau sy'n rhyddhau o'r ymennydd (Hormon Lwteineiddio a Hormon Ysgogi Ffoliglau) ac atal y neges i'r corff i ryddhau estrogen a phrogesteron.

Gwaedu tynnu'n ôl

Weithiau mae gwaedu’n digwydd ar amser rheolaidd bob mis wrth gymryd dulliau atal cenhedlu. Yr enw ar hyn yw “gwaedu tynnu’n ôl” ac mae hyn oherwydd ‘tynnu’n ôl’ o hormonau synthetig. Am y rheswm yma, NID yw gwaedu tynnu'n ôl yr un fath â mislif ac nid yw'n cael ei ystyried fel mislif.

NID yw gwaedu tynnu’n ôl rheolaidd yn arwydd o gylch y mislif arferol, ni all y rhai sy'n defnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd ddefnyddio eu gwaedu tynnu'n ôl i ddynodi cylchoedd afreolaidd neu golli cylch y mislif (amenorea).

Sgîl-effeithiau

Gall rhai brofi symptomau wrth ddefnyddio dulliau atal cenhedlu hormonaidd fel gwaedu afreolaidd, cur pen, newidiadau mewn hwyliau a llai o gymhelliant.

Ni ddylai’r symptomau fod yn ddifrifol na tharfu ar weithgareddau dyddiol.

Mae'n bwysig gwneud penderfyniadau gwybodus, gan bwyso a mesur y rhesymau i'w defnyddio ac edrych ar strategaethau amgen gan ymgynghori â meddyg, efallai bod dull gwahanol o atal cenhedlu hormonaidd sy'n gweithio'n well.

Mathau o ddulliau atal cenhedlu hormonaidd

  • Pilsen gyfun: Estrogen a phrogestin, 1 bilsen bob dydd am 21 diwrnod a ‘seibiant’ o 7 diwrnod neu bilsen plasebo
  • Pilsen ‘mini’ progestin yn unig: Progestin yn unig, 1 bilsen bob dydd
  • Mewnblaniad: Progestin yn unig, yn para 3 blynedd
  • IUD hormonaidd: Progestin yn unig, yn para 3 i 5 mlynedd
  • Clwt atal cenhedlu: Estrogen a phrogrestin, un clwt bob wythnos am 3 wythnos ac wedyn seibiant o wythnos
  • Modrwy i’r wain: Estrogen a phrogestin, yn para 21 diwrnod gyda seibiant o 7 diwrnod
  • Chwistrelliad: Progestin yn unig, yn para 8 i 13 wythnos

Sgyrsiau am ddulliau atal cenhedlu

Gall cael sgyrsiau am ddulliau atal cenhedlu hormonaidd deimlo’n lletchwith a phersonol. Gall deimlo nad yw’r wybodaeth yma’n berthnasol i berfformiad neu hyfforddiant chwaraeon ac yn hytrach yn croesi i weithgarwch rhywiol (mae dulliau atal cenhedlu yn cael eu cysylltu yn aml ag ag osgoi beichiogrwydd). Fodd bynnag, mae'n bwysig deall y gall rhai unigolion fod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu i reoli symptomau gan ddilyn cyfarwyddiadau gweithiwr meddygol proffesiynol neu y gallai sgîl-effeithiau fod yn effeithio ar hyfforddiant / perfformiad.

Eglurwch y gall dulliau atal cenhedlu hormonaidd effeithio ar gylch y mislif, a all ddylanwadu ar berfformiad, felly mae’n wybodaeth ddefnyddiol i’w gwybod, a yw cylch y mislif yn naturiol ai peidio.