Efallai y bydd rhai athletwyr yn sylwi ar anafiadau cynyddol neu fwy o debygolrwydd o gael anaf ar adegau penodol trwy gydol cylch y mislif. Os ydych chi'n sylwi bod anafiadau penodol yn digwydd yn rheolaidd ar yr un pryd yn eich cylch, gallai hyn gael ei achosi gan y newidiadau i lefelau hormonau a'r effaith y gall y rhain ei chael ar swyddogaeth y cyhyrau, cydsymudiad, a symudiad y cymalau.
Rydyn ni’n gwybod hefyd y gall cwsg gael ei effeithio ar adegau penodol drwy gydol cylch y mislif ac mae cwsg yn chwarae rhan bwysig mewn rheoli ac atal anafiadau.
I ddeall yn llawn sut mae eich corff yn ymateb i'r newid yn lefel yr hormonau, ochr yn ochr â thracio’r symptomau traddodiadol o fewn cylch y mislif, cofiwch nodi unrhyw anafiadau, dolur yn y cyhyrau neu flinder rydych chi'n eu profi.
Isod mae rhai cynghorion da i leihau'r risg o anaf drwy gydol cylch y mislif:
- Strwythurwch eich hyfforddiant gyda'r nod o ledaenu sesiynau dwysedd uchel yn gyfartal ar draws yr wythnos.
- Gall pwynt canol cylch y mislif fod yn adeg pan mae’r corff yn fwy tueddol o gael anafiadau (y pwynt hanner ffordd rhwng diwrnod 1 eich mislif diwethaf a'r mislif nesaf). Felly, mae cynhesu cyn unrhyw ymarfer corff yn dod yn bwysicach fyth.
- Gall cynnal hyfforddiant fod yn ddefnyddiol i gefnogi symptomau eraill ond efallai y byddwch eisiau bod yn fwy gofalus o hyfforddiant dwysedd uchel. Bydd tracio eich cylch yn eich helpu i weld pa fath o hyfforddiant sydd orau i chi ar wahanol adegau yn eich cylch (dwysedd isel neu ddwysedd uchel).
- Bydd hyfforddiant cryfder a chyflyru neu ymwrthedd cyson, sy'n cynyddu'n raddol, yn gwella cryfder y cyhyrau, gan helpu i leihau'r risg o anaf yn ogystal â gwella perfformiad chwaraeon. Gallai hyn gynnwys hyfforddiant pwysau corff, hyfforddiant band ymwrthedd, plyometreg neu bwysau tegell, dymbelau, a phwysau bar. Mae posib gwneud y mathau hyn o hyfforddiant gartref, yn y gampfa neu eu cynnwys mewn sesiwn cynhesu cyn ymarfer corff. Yr hyn sy'n bwysig yw bod hyn yn cael ei wneud yn gyson i gynyddu cryfder eich cyhyrau yn raddol yn rhan isaf eich corff, y craidd, a rhan uchaf eich corff.
- I'ch helpu i reoli hyfforddiant dwysedd uchel, cofiwch gynnwys cynhesu da ac adeiladu'r dwysedd yn raddol.
- Mewn amodau oer, cadwch eich cyhyrau'n gynnes drwy wisgo haenau ychwanegol, cynhesu y tu mewn os yw hynny yn bosibl a chynhesu eto yn syth ar ôl ymarfer.
- Gall colagen helpu gydag adfer tendonau a ligamentau ac mae i'w gael yn naturiol mewn gelatin. Ceisiwch ychwanegu jeli at eich deiet ddyddiol ar adegau pan fyddwch chi'n fwy agored i anaf, i helpu i gefnogi'r broses adfer.
- Mae rhai unigolion yn defnyddio ategolyn colagen, ond bydd angen i chi wirio ei fod wedi’i brofi os ydych chi’n athletwr cystadleuol.
- Mae fitamin C hefyd yn ddefnyddiol wrth atgyweirio ac adfer ar ôl hyfforddi. Gallech ychwanegu rhai bwydydd fitamin C (aeron, orennau, tatws) i gefnogi'r broses yma.