Skip to main content

Sgyrsiau am cylch y mislif

Efallai y bydd rhai athletwyr yn teimlo’n gyfforddus yn siarad yn agored am gylch y mislif a gall rhai deimlo mai dyma’r peth gwaethaf yn y byd! Gallai hyn gael ei ddylanwadu gan eu diwylliant, eu hoedran, eu teulu a'u hamgylchedd cymdeithasol.

Rhwystrau sy’n atal sgyrsiau

Isod mae rhai enghreifftiau o rwystrau mae hyfforddwyr ac athletwyr benywaidd wedi’u rhannu gyda ni:

  • Mae hyfforddwyr yn teimlo ei fod yn amhriodol neu'n amharu ar breifatrwydd.
  • Tabŵ diwylliannol yn arwain at gywilydd ac embaras.
  • Negeseuon dryslyd ar y cyfryngau
  • Dim adnoddau nac addysg i wybod beth i'w ddweud a phryd.
  • Profiad personol hyfforddwyr benywaidd o gylch y mislif ddim yn effeithio ar hyfforddiant / perfformiad ac felly ddim yn teimlo ei fod yn bwysig.
  • Y farn bod trafodaeth am gylch y mislif a dulliau atal cenhedlu hormonaidd y tu hwnt i'r rôl hyfforddi.
  • Diffyg strwythur yn ei le ar gyfer addysg neu gefnogaeth
  • Diffyg amser mewn tymor ar gyfer addysg briodol

Ochr yn ochr â rhwystrau sy’n atal sgyrsiau, mae yna hefyd rai ffactorau sy'n effeithio ar ba mor gyfforddus yw pobl, a’u hyder wrth gyfathrebu am gylch y mislif. O siarad ag athletwyr benywaidd, rydyn ni wedi deall bod y ffactorau canlynol yn dylanwadu ar sgyrsiau rhwng hyfforddwyr ac athletwyr:

Ffactorau sy'n dylanwadu

Sgyrsiau cadarnhaol blaenorol 

Pan fydd athletwraig fenywaidd wedi cael profiad o gael sgwrs gadarnhaol am ei chylch y mislif gyda’i hyfforddwr mae wedi atgyfnerthu profiad cadarnhaol ac wedi cefnogi sgyrsiau parhaus.

Pan fydd hyfforddwyr wedi ymateb i sgyrsiau gyda ‘dyna ddigon o wybodaeth, does dim angen i mi wybod y manylion yma’ neu ‘efallai y dylet ti siarad â rhywun arall’, mae wedi atal athletwyr benywaidd rhag cael sgyrsiau agored. Cofiwch y gallwch chi gael rhagor o wybodaeth gan arbenigwyr, ond mae athletwraig wedi dewis siarad â chi amdano gan awgrymu ei bod yn teimlo'n ddiogel yn yr amgylchedd rydych chi wedi'i greu.

Hyder

Mae pawb yn wahanol ac yn unigol; efallai y bydd rhai athletwyr yn teimlo'n fwy hyderus yn siarad â'u hyfforddwyr yn seiliedig ar brofiadau blaenorol.

Cyfarwydd â’r person

Mae athletwyr benywaidd yn debygol o siarad â'r rhai maen nhw’n gyfarwydd â nhw. Felly, cyn awgrymu eu bod yn trafod iechyd merched gydag “arbenigwr” nad ydyn nhw wedi ei gyfarfod o’r blaen, ystyriwch y rôl y gallech chi ei chwarae i’w cefnogi.

Mynd yn hŷn a phrofiadau cynyddol 

Os yw athletwyr benywaidd wedi profi sgyrsiau blaenorol fel siarad â meddygon am atal cenhedlu neu brofion ceg y groth, mae mwy o barodrwydd i fod yn agored a siarad am brofiadau benywaidd penodol.

Cofiwch, mae pawb yn unigol ac nid yw un maint yn ffitio pawb - cefnogwch yr athletwraig drwy ofyn iddi sut hoffai drafod ei hiechyd benywaidd gyda chi. A fyddai’n hoffi i hyn fod o dan amgylchiadau un i un mewn lleoliad mwy anffurfiol? A fyddai’n well ganddi ei drafod ag aelod penodol o’r tîm neu gyda hyfforddwr arall yn bresennol?

Terminoleg

Rydyn ni i gyd wedi tyfu i fyny yn defnyddio geiriau gwahanol ar gyfer llawer o bethau gwahanol, boed hynny'n rhannau penodol o'r corff neu swyddogaethau biolegol rydyn ni’n teimlo embaras yn siarad amdanyn nhw. Mae llawer o ledneiseiriau neu ‘euphemisms’ neu ‘eiriau cod’ am y mislif ond gall defnyddio’r rhain gadarnhau’r syniad o letchwithdod, embaras a’r stigma negyddol sy’n gysylltiedig yn hanesyddol â’r mislif.

Ceisiwch osgoi defnyddio lledneiseiriau ac yn hytrach byddwch yn hyderus yn y derminoleg gywir i’w defnyddio: ‘cylch y mislif’, ‘mislifo’ a ‘mislifau’. 

Os ydych chi’n ansicr ynghylch y derminoleg gywir, efallai y byddwch eisiau darganfod a yw eich corff rheoli’n cynnig unrhyw hyfforddiant neu e-ddysgu ar gylch y mislif.

Agwedd at sgyrsiau 

Byddwch yn gefnogol wrth siarad am gylch y mislif.

Mae agwedd gefnogol - gytbwys yn gyffredin ymhlith hyfforddwyr sydd yn:

  • ymwybodol o arwyddion, symptomau a chanlyniadau cylch y mislif
  • ymwybodol o’r gwahanol ffynonellau o gefnogaeth sydd ar gael
  • dechrau sgwrs, cyfeirio a chynnwys rhwydweithiau cefnogi i hwyluso mynediad at gefnogaeth.

Er enghraifft:

'Rydw i wedi sylwi dy fod di wedi bod yn cael trafferth gyda chymhelliant a blinder yn ddiweddar; rydw i'n meddwl y byddai'n ddefnyddiol i ni werthuso cylch y mislif gen ti, sut mae hyn yn cysylltu â dy symptomau di i weld allwn ni wella dy adferiad di rhwng y sesiynau hyfforddi'

Pan fyddwch chi'n cyfathrebu â chyfranogwyr benywaidd am eu cylch y mislif, ceisiwch fod yn gefnogol - drwy gynyddu gwybodaeth am gylch y mislif a dealltwriaeth ohono, a hefyd creu amgylchedd cadarnhaol yn gysylltiedig â’r mislif i ganiatáu sgyrsiau agored yn ymwneud â’r mislif.

I gael rhagor o wybodaeth a chefnogaeth, rydyn ni wedi datblygu modiwl ‘bod yn agored am gylch y mislif a sgwrsio amdano’ sy’n cynnwys cynghorion pellach ar gyfer dechrau a pharhau â sgwrs a chefnogaeth.