Main Content CTA Title

Glasoed

Yn nodweddiadol, mae merched yn eu harddegau yn cael eu mislif cyntaf, arwydd eu bod wedi dechrau cylch y mislif, yn 12 oed. Fodd bynnag, gallant ddechrau o 8 oed. Mae cylch y mislif yn dechrau tua 2 flynedd ar ôl i feinwe'r bronnau ddechrau datblygu. Yn ystod y glasoed, mae corff merch ifanc yn dechrau aeddfedu a datblygu i fod yn gorff oedolyn benywaidd, gan gynnwys newid yn gorfforol, yn emosiynol ac yn hormonaidd. 

Mae'r newidiadau yma’n creu llu o fanteision a rhai heriau am gyfnod. Gall dal ati mewn chwaraeon a bod yn actif fod yn gefnogol iawn yn ystod y cyfnod yma, er y gall rhai merched ifanc ei chael yn anodd dal ati i gymryd rhan mewn chwaraeon.

Mae 78% o fenywod yn osgoi chwaraeon pan maen nhw ar eu mislif. O blith y rhain, mae 73% yn dweud oherwydd poen, mae 62% yn dweud oherwydd eu bod nhw’n ofni i waed ollwng, mae 52% yn dweud eu bod nhw’n osgoi chwaraeon oherwydd eu bod nhw wedi blino gormod, ac mae 45% yn osgoi chwaraeon oherwydd eu bod nhw’n teimlo'n hunanymwybodol. Dydyn ni ddim eisiau i’r ystadegau yma ddweud yr un peth. Mae llawer o gyfrinachedd ac iaith a theimladau negyddol tuag at y mislif. Fodd bynnag, rydyn ni eisiau i bobl ifanc sy'n cael mislifau deimlo'n gadarnhaol am bŵer cylch y mislif a chofleidio eu corff.

Manteision glasoed

  • Cryfder esgyrn cynyddol, diolch i Estrogen, hormon sy'n ymwneud â chylch y mislif.
  • Ffitrwydd cynyddol, diolch i dyfiant y galon a'r ysgyfaint.
  • Lefelau cryfder a phŵer uwch, wrth i gyhyrau dyfu'n gyflymach a dod yn gryfach wrth ymarfer, diolch i gynnydd mewn lefelau hormonau.
  • Cynnydd mewn hyblygrwydd diolch i hormonau a newidiadau benywaidd penodol eraill yn y cyhyrau.

Beth all helpu menyw yn ystod glasoed?

Mae digonedd o bethau all gefnogi menyw yn ystod y glasoed, fel:

  • Arbrofi gyda gwahanol gynhyrchion y mislif i weld beth sy'n gweithio.
  • Gall dod o hyd i fra chwaraeon sy'n ffitio'n iawn wrth i'r bronnau dyfu helpu gyda theimlo'n llai hunanymwybodol a lleihau unrhyw boen yn ystod chwaraeon.
  • Byddwch yn ymwybodol y gall dillad effeithio ar eu lefelau cysur - er enghraifft, gall siorts neu leotards gwyn gynyddu’r pryder wrth waedu.
  • Daliwch ati i ddod o hyd i gefnogaeth sy'n annog bod yn agored i sgwrs am deimladau a phrofiadau. Mae amrywiaeth o emosiynau yn normal, gan gynnwys embaras a pheidio â bod eisiau siarad.
Mae merch gyda raced tennis yn edrych i fyny tuag at y bêl