Mae dealltwriaeth a chydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd iechyd y pelfis ymhlith athletwyr ond eto i lawer mae'n parhau i gael ei anwybyddu ac yn bwnc tabŵ felly heb gael y gefnogaeth sydd ei hangen.
Iechyd y Pelfis
Beth yw Iechyd y Pelfis?
Mae iechyd y pelfis yn cyfeirio at swyddogaeth a lles llawr y pelfis a'r organau cysylltiedig (pledren, rectwm, croth). Mae llawr y pelfis yn cynnwys cyhyrau a meinweoedd cyswllt (ligamentau a ffasgia) sy'n gweithio gyda'i gilydd i ffurfio sling strwythurol i gynnal gwaelod allfa'r pelfis.
Gall y symptomau sy’n arwydd o ddiffyg swyddogaeth llawr y pelfis (PFD) gynnwys:
- gollwng wrin
- brys i basio iwrin,
- colli rheolaeth ar symudiadau gwynt neu’r bowel,
- llusgo,
- chwyddo neu ymdeimlad o drymder yn y fagina
- poen yn ardal y pelfis.
Mae tua 1 o bob 3 menyw yn profi symptomau PFD a dywedir bod y ffigur hwn yn uwch ymhlith y boblogaeth athletig a gall effeithio ar ferched drwy gydol eu hoes.
Er bod symptomau llawr y pelfis yn gyffredin ymhlith athletwyr benywaidd, ni ddylid eu hystyried yn normal. Gyda chymorth priodol, mantais ystyried y pwnc hwn yw bod posib atal a rheoli’r symptomau i sicrhau’r hyfforddiant a’r perfformiad gorau posib.
Mae sicrhau’r iechyd pelfis gorau posib yn hanfodol i atal symptomau diffyg swyddogaeth llawr y pelfis. Gall y symptomau effeithio ar hyfforddiant, perfformiad a chael effaith negyddol ar iechyd meddwl a chyfranogiad mewn chwaraeon. Mae’n bwysig ystyried iechyd y pelfis, deall yr arwyddion a’r symptomau a chydnabod y gall cymorth priodol atal a rheoli’r symptomau a sicrhau nad yw diffyg swyddogaeth llawr y pelfis yn rhwystr i hyfforddiant a pherfformiad.