Main Content CTA Title

Iechyd y Fron a chymorth bra

Rydyn ni’n gwybod bellach y gall cael y cymorth cywir gael effaith sylweddol ar iechyd a pherfformiad. Dyma rhywfaint o gyngor i’ch helpu chi i ddechrau dod o hyd i’r wybodaeth gywir.

Mae bronnau merched wedi'u gwneud yn bennaf o chwarennau, dwythellau llaeth, meinwe cyswllt a braster. Er bod y cyhyrau pectoral yn eistedd y tu ôl i'r bronnau, nid ydynt yn darparu llawer o gefnogaeth o ran dal y fron yn ei lle. Croen yw'r unig strwythur sy'n dal meinwe'r fron.

Mae rhedeg gyda chynhaliaeth wael i'r bronnau yn achosi i gyhyrau rhan uchaf y corff weithio'n galetach i wrthweithio effeithiau'r bronnau sy'n symud, mae hyn yn gofyn am fwy o egni ac yn gwneud i'r ymarfer corff deimlo'n galetach yn ogystal ag effeithio ar y ffordd rydych chi'n symud.

Felly, mae angen cefnogaeth allanol i atal symudiad y bronnau yn ystod ymarfer corff ac wrth wneud gweithgareddau dyddiol hyd yn oed.

Manteision gwisgo bra chwaraeon

Mae nifer o fanteision i’w cael o wisgo bra chwaraeon sy’n ffitio'n gywir:

  • Mae’n lleihau'r risg o anafiadau i feinwe'r bronnau oherwydd gwell cynhaliaeth
  • Mae’n lleihau'r risg o anafiadau ar draws y corff gan nad yw rhannau eraill y corff yn gorfod gwrthweithio neu reoli'r symudiad a’r baich ychwanegol o feinwe'r bronnau sy'n symud
  • Gall anadlu yn ystod ymarfer corff deimlo'n haws
  • Nid oes rhaid i chi atal neu geisio rheoli symudiad y bronnau 
  • Ni fydd arnoch angen cymaint o egni ac felly efallai y bydd yr ymarfer corff yn teimlo'n haws

Mae gwisgo bra chwaraeon sy'n ffitio'n gywir nid yn unig yn lleihau'r egni sydd ei angen a'r risg cysylltiedig o anaf ... ond mae hefyd yn teimlo'n llawer mwy cyfforddus ac yn atal symudiad y bronnau rhag amharu ar neu rwystro hyfforddiant a pherfformiad.

Dolenni defnyddiol