Main Content CTA Title

Menopos

Mae’r menopos yn amser pan mae lefelau’r hormonau’n gostwng gan arwain at ddiwedd cylch y mislif.

Pryd fydd y menopos yn digwydd?

Yr oedran cyfartalog ar gyfer hyn yw 51 oed, ond mae'r symptomau'n cael eu dosbarthu fel y menopos pan nad oes mislif wedi bod ers 12 mis.

Mae’r perimenopos yn cael ei ystyried fel y cyfnod sy'n arwain at y menopos gyda'r unigolyn cyffredin yn profi’r cyfnod yma yn 47 oed. Fodd bynnag, gall ddechrau hyd at 10 mlynedd cyn hyn pan fydd yr hormonau'n amrywio, a phan mae rhai symptomau sy'n gysylltiedig â’r menopos wedi dechrau.

Sut i ymdopi â'r menopos?

Mae’r menopos wedi cael ei drafod yn helaeth yn ddiweddar gyda llawer o gysylltiadau negyddol yn ymwneud â’r symptomau. Fodd bynnag, mae posib edrych arno hefyd fel cyfnod cadarnhaol mewn bywyd pan fydd canol oed newydd yn dechrau.

Mae bod yn ymwybodol o’r arwyddion a’r symptomau a all ddigwydd gyda’r peri menopos a’r menopos yn gallu golygu bod posib rhoi mecanweithiau ymdopi ar waith i helpu a chael buddion iechyd yn y dyfodol.

Gall ymarfer corff, hyfforddiant cryfder yn benodol, gael effaith gadarnhaol ar les drwy gydol y blynyddoedd hyn a hefyd cefnogi cynnal iechyd y cyhyrau a’r esgyrn ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

Drwy gynyddu gwybodaeth, gallwch reoli eich symptomau eich hun, neu gefnogi eraill gyda'u symptomau nhw, a sicrhau bywyd hapus ac iach yn ystod pob cam o'r menopos.