Main Content CTA Title

Diffyg egni cymharol mewn chwaraeon (REDs)

Diffyg egni cymharol mewn chwaraeon (REDS) yw'r term a ddefnyddir ar gyfer casgliad o symptomau sy’n cael eu hachosi gan ddiffyg egni. Pan fydd unigolion yn methu â chael digon o faeth ar gyfer yr ymarfer maen nhw’n ei wneud, mae'r corff yn dechrau cau systemau’r corff “sydd ddim yn hanfodol” i lawr er mwyn arbed egni. 

Mae hwn yn ddull y mae'r corff dynol wedi'i ddatblygu dros filoedd o flynyddoedd a byddai wedi caniatáu i bobl oroesi yn y gorffennol drwy gyfnodau o argaeledd bwyd cyfyngedig.

Beth mae hyn yn ei olygu i athletwyr?

Mae hyn yn golygu y bydd y corff yn blaenoriaethu egni ar gyfer ymarfer corff ac os na chaiff yr egni yma ei roi yn ôl, efallai y bydd symptomau REDS yn dechrau ymddangos.

Mae symptomau REDS yn hynod amrywiol oherwydd gall y corff gau sawl system wahanol i lawr, yn dibynnu ar ddifrifoldeb y diffyg egni.

Mae’r symptomau cyffredin yn cynnwys blinder, dolur parhaus yn y cyhyrau, llwglyd yn ystod y nos, cwsg gwael, newid yng nghyflwr y croen neu’r gwallt, colli libido, colli cylch y mislif, hwyliau isel, newidiadau i iechyd y perfedd, anafiadau parhaus a / neu salwch.

Dyma restr gyflawn o systemau'r corff y mae REDs yn effeithio arnynt.

Rydyn ni’n gwybod bod tua 48% o athletwyr yn debygol o gael anhawster gyda symptomau REDS, er bod rhywfaint o'r ymchwil yn awgrymu y gallai hyn fod yn llawer uwch. Rydyn ni’n gwybod bellach bod y symptomau yma’n bresennol mewn athletwyr gwrywaidd.

Gall unigolion ddatblygu REDS oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o faint o egni sydd ei angen ar eu corff ar gyfer ymarfer corff, neu gall fod yn ddewis ymwybodol i hybu newidiadau mewn pwysau neu yn y corff am resymau perfformiad neu esthetig.

Sut i atal REDs?

Er mwyn atal symptomau rhag digwydd neu waethygu, mae athletwyr yn cael eu hannog i ganolbwyntio ar eu cymeriant egni cyffredinol i sicrhau eu bod yn cael digon. Yn fwy penodol, rydyn ni bellach yn gwybod bod rhaid i athletwyr sicrhau eu bod yn cael digon o garbohydradau cyn, yn ystod ac ar ôl unrhyw ymarfer corff maen nhw’n cymryd rhan ynddo i wneud iawn am faint sydd ei angen.

Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol i atal effeithiau iechyd hirdymor REDS fel dwysedd esgyrn llai, anafiadau difrifol, neu iechyd meddwl gwael.

Os ydych chi'n poeni am unrhyw symptomau rydych chi'n eu profi, ewch i wefan REDs i gael gwybod mwy a chael mynediad at y gefnogaeth a'r adnoddau priodol i chi.

Gwyliwch y fideo hwn i ddysgu sut mae REDs wedi effeithio ar y rhedwr 1500m rhyngwladol, Bobby Clay.