Pam fod angen Panel Athletwyr yn y byd chwaraeon yng Nghymru?
Rydyn ni eisiau i bob profiad mae athletwr yn ei gael fod yn un sy'n ei helpu i ffynnu. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni ddysgu gan athletwyr sydd wedi profi'r amgylcheddau yma. Mae cael gofod lle mae lleisiau athletwyr yn cael eu clywed yn hanfodol ar gyfer creu amgylcheddau cadarnhaol sydd wir yn diwallu anghenion yr athletwyr sydd ynddyn nhw.
Nod y Panel Athletwyr yw grymuso athletwyr, gwella eu profiadau o fewn chwaraeon, a chyfrannu at ddatblygiad chwaraeon yng Nghymru gyfan. Mae’r Panel yn creu lle i athletwyr gael llais wrth wneud penderfyniadau, cynrychioli eu safbwyntiau a’u pryderon, ac eiriol dros hawliau athletwyr a’u lles o fewn chwaraeon. Mae hefyd yn creu gofod i athletwyr ddod at ei gilydd a chysylltu drwy rannu profiadau, heriau a llwyddiannau.
Enghreifftiau o ymwneud y Panel Athletwyr:
Hyd yma, mae’r panel wedi darparu adborth ar brosiectau amrywiol gydag aelodau Chwaraeon Cymru sy’n effeithio ar lawer o athletwyr ar draws y system chwaraeon. Dyma rai enghreifftiau:
Mae’r Panel Athletwyr wedi cyflawni’r canlynol:
- dylanwadu ar sut mae addysg am iechyd athletwyr benywaidd a’r mislif yn cael ei darparu.
- dylanwadu ar y ffyrdd rydyn ni’n sicrhau gwybodaeth am amgylcheddau athletwyr.
- dylanwadu ar gynnwys graffeg gwybodaeth Chwaraeon Cymru ar gyfer hyfforddwyr.
- rhoi adborth i Chwaraeon Cymru am eu dull o weithredu gyda iechyd meddwl.
- tynnu sylw at ymwybyddiaeth o anghenion athletwyr, gan gynnwys diogelu.
- annog chwaraeon a chyrff rheoli cenedlaethol i ethol Cynrychiolydd Athletwyr.
Eisiau bod yn gynrychiolydd athletwyr ar gyfer eich camp? Yn wynebu unrhyw broblemau neu heriau o fewn eich camp? Os gallwn ni eich cefnogi chi drwy fentora, cynnig cyngor doeth, neu gyfeirio, cysylltwch â ni.
Mae Osian a Georgia yn siarad Cymraeg ac yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg.