Chwaraeon Elitaidd
Ers i arian y loteri gael ei gyflwyno i chwaraeon elitaidd yn 1997 – yn dilyn casgliad siomedig o fedalau yng Ngemau Olympaidd 1996 – mae llawer o athletwyr Cymru wedi cael eu cefnogi gan y Loteri Genedlaethol, o Tanni Grey-Thompson ar ddiwedd y nawdegau a dechrau’r mileniwm newydd i’r seren newydd ym Mharis 2024, Emma Finucane.
Mae Rhaglen Safon Byd UK Sport sy’n cael ei chyllido gan y Loteri Genedlaethol yn rhoi cyfle i athletwyr Cymru, gan gynnwys Emma, hyfforddi’n llawn amser, cael mynediad at hyfforddwyr gorau’r byd ac elwa o gefnogaeth feddygol arloesol.
Nid yn unig y mae’r Loteri Genedlaethol yn ariannu athletwyr elitaidd Cymru yn uniongyrchol, ond mae hefyd yn cefnogi’r clybiau ar lawr gwlad maen nhw’n dod i’r amlwg drwyddyn nhw, ac yn ogystal mae’n buddsoddi i greu’r cyfleusterau chwaraeon o safon byd lle maen nhw’n hyfforddi ac yn perfformio.
Partneriaid
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Chwaraeon Cymru yn gallu buddsoddi mewn cyrff rheoli cenedlaethol arloesol, partneriaid cenedlaethol ac awdurdodau lleol.
Eleni, mae Chwaraeon Cymru wedi ymrwymo mwy na £10 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol i bartneriaid. Mae'r rhain yn cynnwys Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol, Awdurdodau Lleol, Partneriaid Cenedlaethol, Partneriaethau Chwaraeon ac eraill.
Mae pob un o’r sefydliadau hyn ac eraill yn helpu i greu cenedl acti lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes.