Main Content CTA Title

Citbag

Mae Citbag yn hwb dysgu ar-lein i helpu i roi’r sgiliau, yr hyder a’r profiadau chwaraeon i bobl ifanc er mwyn iddynt fwynhau chwaraeon am oes.

Mae gennym adnoddau ar gyfer:

  • athrawon
  • hyfforddwyr
  • gwirfoddolwyr
  • rhieni neu warcheidwaid
  • dysgwyr

Creu cyfrif am ddim i gael mynediad i Citbag.

Mae gennym gannoedd o adnoddau wedi'u datblygu gan arbenigwyr addysg a chwaraeon. Cefnogir ein hadnoddau gan Lywodraeth Cymru ac maent wedi’u cynllunio i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru. Bydd mwy fyth o adnoddau’n cael eu hychwanegu ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi 2022.